Welsh

1 Chronicles

24

1 Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron: Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar. 2 Bu farw Nadab ac Abihu yn ddi-blant, a'u tad eto'n fyw; felly daeth Eleasar ac Ithamar yn offeiriaid. 3 Gyda chymorth Sadoc o feibion Eleasar ac Ahimelech o feibion Ithamar, gosododd Dafydd hwy yn eu swyddi ar gyfer eu gwasanaeth. 4 Gan fod mwy o ddynion blaenllaw ymysg meibion Eleasar na meibion Ithamar, rhannwyd hwy fel hyn: o feibion Eleasar, un ar bymtheg o bennau-teuluoedd, ac o feibion Ithamar, wyth. 5 Dosbarthwyd y naill a'r llall trwy goelbren, gan fod swyddogion y cysegr a swyddogion Duw o blith meibion Eleasar a meibion Ithamar. 6 Cof-restrwyd eu henwau gan Semaia fab Nathaneel, ysgrifennydd o lwyth Lefi, yng ngu373?ydd y brenin, y swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Ahimelech fab Abiathar, a phennau-teuluoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dewiswyd un teulu o feibion Eleasar ac un o feibion Ithamar. 7 Syrthiodd y coelbren cyntaf ar Jehoiarib, yr ail ar Jedaia, 8 y trydydd ar Harim, y pedwerydd ar Seorim, 9 y pumed ar Malcheia, y chweched ar Mijamin, 10 y seithfed ar Haccos, yr wythfed ar Abeia, 11 y nawfed ar Jesua, y degfed ar Sechaneia, 12 yr unfed ar ddeg ar Eliasib, y deuddegfed ar Jacim, 13 y trydydd ar ddeg ar Huppa, y pedwerydd ar ddeg ar Jesebeab, 14 y pymthegfed ar Bilga, yr unfed ar bymtheg ar Immer, 15 yr ail ar bymtheg ar Hesir, y deunawfed ar Affses, 16 y pedwerydd ar bymtheg ar Pethaheia, yr ugeinfed ar Jehesecel, 17 yr unfed ar hugain ar Jachin, yr ail ar hugain ar Gamul, 18 y trydydd ar hugain ar Delaia, y pedwerydd ar hugain ar Maaseia. 19 Swyddogaeth y rhain yn y gwasanaeth oedd dod i mewn i du375? Dduw yn �l y drefn a osodwyd gan Aaron eu tad, fel y gorchmynnwyd iddo gan ARGLWYDD Dduw Israel. 20 Dyma weddill meibion Lefi. O feibion Amram: Subael; o feibion Subael: Jehdeia; 21 o Rehabia a'i feibion: Issia yn gyntaf; 22 o'r Ishariaid: Selomoth; o feibion Selomoth: Jahath. 23 Meibion Hebron: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd. 24 O feibion Ussiel: Micha; o feibion Micha: Samir. 25 Brawd Micha oedd Issia. O feibion Issia: Sechareia. 26 Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Jaasei: Beno. 27 Meibion Merari trwy Jaaseia: Beno, Soham, Saccur ac Ibri. 28 O Mahli: Eleasar, a oedd yn ddi-blant. 29 O Cis, meibion Cis: Jerahmeel. 30 Meibion Musi: Mahli, Eder a Jerimoth. Y rhain oedd y Lefiaid yn �l eu teuluoedd. 31 Ac yn union fel y gwnaeth eu brodyr, meibion Aaron, fe fwriodd yr hen a'r ifanc goelbrennau yng ngu373?ydd y Brenin Dafydd, Sadoc, Ahimelech a phennau-teuluoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid.