Welsh

1 Corinthians

5

1 Adroddir fel ffaith fod yna anfoesoldeb rhywiol yn eich plith, a hwnnw'r fath anfoesoldeb na cheir mohono hyd yn oed ymhlith y paganiaid, bod rhyw ddyn yn gorwedd gyda gwraig ei dad. 2 A dyma chwi, yn llawn ymffrost! Onid eich lle chwi oedd galaru, a bwrw allan o'ch plith yr un a wnaeth y fath beth? 3 Oherwydd dyma fi, yn absennol yn y corff, ond yn bresennol yn yr ysbryd, eisoes wedi rhoi dyfarniad, fel un sy'n bresennol, ar y dyn a wnaeth y fath weithred: 4 bod i chwi, ynghyd �'m hysbryd innau, wedi ymgynnull yn enw ein Harglwydd Iesu, a gallu ein Harglwydd Iesu gyda ni, 5 draddodi'r fath ddyn i Satan er mwyn dinistrio'r cnawd, a thrwy hynny achub ei ysbryd yn Nydd yr Arglwydd. 6 Nid yw eich ymffrost yn weddus. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio'r holl does? 7 Glanhewch yr hen lefain allan, ichwi fod yn does newydd, croyw, fel yr ydych mewn gwirionedd. Oherwydd y mae Crist, ein Pasg ni, wedi ei aberthu. 8 Am hynny cadwn yr u373?yl, nid �'r hen lefain, nac ychwaith � lefain malais a llygredd, ond � bara croyw purdeb a gwirionedd. 9 Ysgrifennais atoch yn fy llythyr, i ddweud wrthych am beidio � chymysgu � phobl sy'n cyflawni anfoesoldeb rhywiol. 10 Ond nid am rai anfoesol y byd hwn yr oeddwn yn meddwl o gwbl, na chwaith am y trachwantus, y cribddeilwyr, neu'r eilunaddolwyr; onid e, byddai'n rhaid ichwi fynd allan o'r byd. 11 Ond yn awr yr wyf yn ysgrifennu i ddweud wrthych am beidio � chymysgu � neb a elwir yn gredadun os yw'n anfoesol yn rhywiol neu'n trachwantu, yn addoli eilunod, yn difenwi, yn meddwi, neu'n cribddeilio; peidiwch hyd yn oed � bwyta gydag un felly. 12 Oherwydd beth sydd a wnelwyf fi � barnu'r rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu? 13 Duw fydd yn barnu'r rhai sydd oddi allan. Taflwch y dihiryn allan o'ch mysg.