1 Os oes gan un ohonoch gu373?yn yn erbyn un arall, a yw'n beiddio mynd �'i achos gerbron yr annuwiol, yn hytrach na cherbron y saint? 2 Oni wyddoch mai'r saint sydd i farnu'r byd? Ac os yw'r byd yn cael ei farnu gennych chwi, a ydych yn anghymwys i farnu'r achosion lleiaf? 3 Oni wyddoch y byddwn yn barnu angylion, heb s�n am bethau'r bywyd hwn? 4 Felly, os bydd gennych achosion fel hyn, a ydych yn gosod yn farnwyr y rhai sydd isaf eu parch yng ngolwg yr eglwys? 5 I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn. A yw wedi dod i hyn, nad oes neb doeth yn eich plith fydd yn gallu barnu rhwng cydgredinwyr? 6 A yw credinwyr yn mynd i gyfraith �'i gilydd, a hynny gerbron anghredinwyr? 7 Yn gymaint �'ch bod yn ymgyfreithio o gwbl �'ch gilydd, yr ydych eisoes, yn wir, wedi colli'r dydd. Pam, yn hytrach, na oddefwch gam? Pam, yn hytrach, na oddefwch golled? 8 Ond gwneud cam yr ydych chwi, peri colled yr ydych, a hynny i gydgredinwyr. 9 Oni wyddoch na chaiff yr anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Peidiwch � chymryd eich camarwain; ni chaiff puteinwyr, nac eilunaddolwyr, na godinebwyr, na rhai sy'n ymlygru �'u rhyw eu hunain, 10 na lladron, na rhai trachwantus, na meddwon, na difenwyr, na chrib-ddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw. 11 A dyna oedd rhai ohonoch chwi; ond yr ydych wedi'ch golchi, a'ch sancteiddio, a'ch cyfiawnhau trwy enw'r Arglwydd Iesu Grist, a thrwy Ysbryd ein Duw ni. 12 "Y mae popeth yn gyfreithlon i mi," meddwch; ond nid yw popeth er lles. "Y mae popeth yn gyfreithlon i mi," meddwch; ond ni chaiff dim fy nghaethiwo i. 13 "Y bwydydd i'r bol a'r bol i'r bwydydd," meddwch; ond fe ddifetha Duw y naill a'r llall. Eto, nid i buteindra y mae'r corff, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corff. 14 Cyfododd Duw yr Arglwydd, ac fe'n cyfyd ninnau hefyd drwy ei allu. 15 Oni wyddoch mai aelodau Crist yw eich cyrff chwi? A gymeraf fi, felly, aelodau Crist a'u gwneud yn aelodau putain? Dim byth! 16 Neu oni wyddoch fod dyn sy'n ymlynu wrth butain yn un corff � hi? Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud, "Bydd y ddau yn un cnawd." 17 Ond y sawl sy'n ymlynu wrth yr Arglwydd, y mae'n un ysbryd ag ef. 18 Ffowch oddi wrth buteindra; pob pechod arall a wna rhywun, beth bynnag ydyw, y tu allan i'r corff y mae, ond y mae'r sawl sydd yn puteinio yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. 19 Neu, oni wyddoch fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Gl�n sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw, ac nad yr eiddoch eich hunain mohonoch? 20 Oherwydd prynwyd chwi am bris. Felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.