Welsh

1 Samuel

22

1 Dihangodd Dafydd oddi yno i ogof Adulam, a phan glywodd ei frodyr a'i deulu, aethant yno ato. 2 A dyma bawb oedd mewn helbul neu ddyled, neu wedi chwerwi, yn ymgasglu ato. Aeth ef yn ben arnynt, ac yr oedd tua phedwar cant ohonynt gydag ef. 3 Oddi yno aeth Dafydd i Mispe yn Moab, a dweud wrth frenin Moab, "Gad i'm tad a'm mam ddod atat, nes y byddaf yn gwybod beth a wna Duw imi." 4 Felly gadawodd hwy gyda brenin Moab, a buont yn aros yno cyhyd ag y bu Dafydd yn ei loches. 5 Yna dywedodd y proffwyd Gad wrth Ddafydd, "Paid ag aros yn y lloches, dos yn �l i dir Jwda." Felly aeth Dafydd i Goed Hereth. 6 Clywodd Saul fod Dafydd a'r gwu375?r oedd gydag ef wedi dod i'r golwg, ac yr oedd yntau ar y pryd yn Gibea, yn eistedd dan bren tamarisg ar y bryn �'i waywffon yn ei law, a'i weision yn sefyll o'i gwmpas. 7 Ac meddai Saul wrth y gweision o'i gwmpas, "Gwrandewch hyn, dylwyth Benjamin. A fydd mab Jesse yn rhoi i bob un ohonoch chwi feysydd a gwinllannoedd, a'ch gwneud i gyd yn swyddogion ar filoedd a channoedd? 8 Er hynny yr ydych i gyd yn cynllwyn yn f'erbyn. Nid ynganodd neb air wrthyf pan wnaeth fy mab gyfamod � mab Jesse. Nid oedd neb ohonoch yn poeni amdanaf fi, nac yn yngan gair wrthyf pan barodd fy mab i'm gwas godi cynllwyn yn f'erbyn fel y gwna heddiw." 9 Yna atebodd Doeg yr Edomiad, a oedd yn sefyll gyda gweision Saul, a dweud, "Mi welais i fab Jesse'n dod i Nob at Ahimelech fab Ahitub. 10 Ymofynnodd yntau �'r ARGLWYDD drosto, a rhoi bwyd iddo; rhoes iddo hefyd gleddyf Goliath y Philistiad." 11 Anfonodd y brenin am yr offeiriad Ahimelech fab Ahitub a'i deulu i gyd, a oedd yn offeiriaid yn Nob, a daethant oll at y brenin. 12 Ac meddai Saul, "Gwrando di yn awr, fab Ahitub." Atebodd yntau, "Gwnaf, f'arglwydd." 13 Yna dywedodd Saul wrtho, "Pam yr ydych wedi cynllwyn yn f'erbyn, ti a mab Jesse, a thithau'n rhoi bwyd a chleddyf iddo, yn ymofyn � Duw drosto, ac yn gadael iddo gynllwyn yn f'erbyn, fel y mae'n gwneud heddiw?" 14 Atebodd Ahimelech y brenin a dweud, "Pwy o blith dy holl weision sydd mor deyrngar � Dafydd, yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin, ac yn bennaeth dy osgorddlu ac yn uchel ei barch yn dy blas? 15 Ai dyna'r tro cyntaf imi ymofyn � Duw drosto? Nage'n wir! Peidied y brenin � chyhuddo ei was, na'r un o'i deulu, oherwydd ni u373?yr dy was ddim am hyn, na bach na mawr." 16 Dywedodd y brenin, "Yr wyt ti, Ahimelech, yn mynd i farw, ie, ti a'th holl deulu." 17 Yna dywedodd y brenin wrth y gosgorddlu oedd yn sefyll yn ei ymyl, "Trowch arnynt a lladdwch offeiriaid yr ARGLWYDD, oherwydd y maent hwythau law yn llaw � Dafydd, am eu bod yn gwybod ei fod ar ffo, ond heb yngan gair wrthyf." Ond ni fynnai gweision y brenin estyn llaw i daro offeiriaid yr ARGLWYDD. 18 Yna dywedodd y brenin wrth Doeg, "Tro di a tharo'r offeiriaid." Fe droes Doeg a tharo'r offeiriaid; a'r diwrnod hwnnw fe laddodd bump a phedwar ugain o wu375?r yn gwisgo effod liain. 19 Yn Nob hefyd, tref yr offeiriaid, trawodd �'r cleddyf wu375?r a gwragedd, plant a babanod, a hyd yn oed ychen, asynnod a defaid. 20 Ond dihangodd un mab i Ahimelech fab Ahitub, o'r enw Abiathar; a ffodd at Ddafydd, 21 a dweud wrtho fod Saul wedi lladd offeiriaid yr ARGLWYDD. 22 Dywedodd Dafydd wrth Abiathar, "Mi wyddwn i y diwrnod hwnnw pan oedd Doeg yr Edomiad yno, y byddai'n sicr o ddweud wrth Saul. Myfi sy'n gyfrifol am farwolaeth dy deulu cyfan. 23 Aros gyda mi, paid ag ofni; oherwydd yr un sy'n ceisio d'einioes di sy'n ceisio f'einioes innau. Byddi'n ddiogel gyda mi."