1 Mynegwyd i Ddafydd fod y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila, ac yn ysbeilio'r lloriau dyrnu. 2 Ymofynnodd Dafydd �'r ARGLWYDD, a oedd i fynd a tharo'r Philistiaid hyn. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Ddafydd, "Dos a tharo'r Philistiaid, ac achub Ceila." 3 Ond dywedodd gwu375?r Dafydd wrtho, "Yr ydym mewn digon o ofn yma yn Jwda; pa faint mwy pan awn i Ceila, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid?" 4 Felly ymofynnodd Dafydd eto �'r ARGLWYDD, ac atebodd yr ARGLWYDD ef, "Dos i lawr i Ceila, oherwydd rhoddaf y Philistiaid yn dy law." 5 Felly fe aeth Dafydd a'i wu375?r i Ceila ac ymladd �'r Philistiaid, a mynd �'u gwartheg ymaith, a gwneud lladdfa fawr yn eu mysg hwy; ac achubodd Dafydd drigolion Ceila. 6 Pan ffodd Abiathar fab Ahimelech at Ddafydd i Ceila, daeth �'r effod i lawr gydag ef. 7 A phan fynegwyd i Saul fod Dafydd wedi mynd i Ceila, dywedodd Saul, "Y mae Duw wedi ei roi yn fy llaw, oherwydd y mae wedi cau amdano wrth fynd i ddinas ac iddi byrth a barrau." 8 Galwodd Saul yr holl bobl i ryfel, ac i fynd i lawr i Ceila i warchae ar Ddafydd a'i wu375?r. 9 Pan ddeallodd Dafydd fod Saul yn cynllunio drwg yn ei erbyn, dywedodd wrth yr offeiriad Abiathar, "Estyn yr effod." 10 Yna dywedodd Dafydd, "O ARGLWYDD Dduw Israel, y mae dy was wedi clywed yn bendant fod Saul yn ceisio dod i Ceila i ddinistrio'r dref o'm hachos i. 11 A fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi iddo? A ddaw Saul i lawr fel y clywodd dy was? O ARGLWYDD Dduw Israel, rho ateb i'th was." Atebodd yr ARGLWYDD, "Fe ddaw." 12 Yna gofynnodd Dafydd, "A fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm gwu375?r yn llaw Saul?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Byddant." Yna cododd Dafydd gyda'i wu375?r, tua chwe chant ohonynt, ac aethant o Ceila a symud o le i le. 13 Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, peidiodd � chychwyn allan. 14 Tra oedd Dafydd yn byw mewn llochesau yn y diffeithwch ac yn aros yn y mynydd-dir yn niffeithwch Siff, yr oedd Saul yn chwilio amdano trwy'r adeg, ond ni roddodd Duw ef yn ei law. 15 Yr oedd Dafydd yn gweld mai dod allan i geisio'i fywyd yr oedd Saul; felly arhosodd Dafydd yn Hores yn niffeithwch Siff. 16 Aeth Jonathan fab Saul draw i Hores at Ddafydd a'i galonogi trwy Dduw 17 a dweud wrtho, "Paid ag ofni; ni ddaw fy nhad Saul o hyd iti; byddi di'n frenin ar Israel a minnau'n ail iti, ac y mae fy nhad Saul yn gwybod hynny'n iawn." 18 Gwnaethant gyfamod ill dau gerbron yr ARGLWYDD; arhosodd Dafydd yn Hores, ac aeth Jonathan adref. 19 Aeth pobl Siff at Saul i Gibea a dweud, "Onid yw Dafydd yn ymguddio yn ein hardal, yn llochesau Hores ym mryniau Hachila i'r de o Jesimon? 20 Pryd bynnag yr wyt ti'n dymuno, O frenin, tyrd i lawr, a rhown ninnau ef yn llaw'r brenin." 21 Ac meddai Saul, "Bendigedig fyddoch gan yr ARGLWYDD am ichwi drugarhau wrthyf. 22 Ewch yn awr a gwneud yn sicr eto; ceisiwch wybod a gwylio'i lwybrau, a phwy a'i gwelodd yno. Dywedir wrthyf ei fod yn un cyfrwys iawn. 23 Wedi ichwi weld a gwybod ym mha un o'r holl guddfannau y mae'n ymguddio, dewch yn �l ataf pan fyddwch yn sicr, a dof finnau gyda chwi. Cyhyd �'i fod yn y wlad, fe chwiliaf amdano ym mhob man, ie, trwy holl lwythau Jwda." 24 Aethant yn �l i Siff cyn i Saul gyrraedd, ac yr oedd Dafydd a'i wu375?r yn niffeithwch Maon, yn yr Araba i'r de o Jesimon. 25 Yna daeth Saul a'i wu375?r i geisio Dafydd, ond dywedwyd wrth Ddafydd, ac aeth yntau i lawr i'r creigiau ac arhosodd yn niffeithwch Maon. 26 Clywodd Saul, ac aeth i erlid Dafydd i ddiffeithwch Maon; ac yr oedd ef yn mynd ar hyd un ochr i'r mynydd, a Dafydd a'i wu375?r ar hyd yr ochr arall. Fel yr oedd Dafydd yn brysio i osgoi Saul, a Saul a'i wu375?r yn cau am Ddafydd a'i wu375?r i'w dal, 27 cyrhaeddodd negesydd a dweud wrth Saul, "Tyrd ar unwaith, oherwydd y mae'r Philistiaid wedi ymosod ar y wlad." 28 Felly peidiodd Saul ag ymlid Dafydd, ac aeth i wrthwynebu'r Philistiaid. 29 Dyna pam yr enwyd y lle hwnnw Sela Hammalecoth. Aeth Dafydd i fyny oddi yno a byw yn llochesau En-gedi.