Welsh

1 Samuel

6

1 Wedi i arch yr ARGLWYDD fod yn Philistia saith mis, 2 galwodd y Philistiaid ar yr offeiriaid a'r dewiniaid a gofyn, "Beth a wnawn ni ag arch yr ARGLWYDD? Dywedwch wrthym sut yr anfonwn hi'n �l i'w lle." 3 Atebasant, "Os ydych yn anfon arch Duw Israel yn �l, peidiwch �'i hanfon heb rodd, gofalwch anfon gyda hi offrwm dros gamwedd; yna cewch eich iach�u a darganfod pam na symudwyd ei law oddi arnoch." 4 Pan ofynnwyd pa offrwm dros gamwedd a roddent iddo, dywedasant, "Pum cornwyd aur a phum llygoden aur, yn �l nifer arglwyddi'r Philistiaid, oherwydd yr un pla a fu ar bawb ohonoch chwi a'ch arglwyddi. 5 Gwnewch fodelau o'ch cornwydydd, a'r llygod sy'n difa'r wlad, a rhowch ogoniant i Dduw Israel; efallai y bydd yn ysgafnhau ei law oddi arnoch chwi a'ch duw a'ch gwlad. 6 Pa les ystyfnigo fel y gwnaeth Pharo a'r Aifft? Wedi iddo ef eu trin fel y mynnai, oni fu raid iddynt ollwng Israel ymaith? 7 Yn awr, paratowch fen newydd a chymryd dwy fuwch flith heb fod dan iau; rhwymwch y buchod wrth y fen a chadw eu lloi i mewn rhag iddynt eu dilyn. 8 Yna cymerwch arch yr ARGLWYDD a'i rhoi ar y fen, ac mewn cist wrth ei hochr rhowch y pethau aur yr ydych yn eu hanfon iddo yn offrwm dros gamwedd; a gadewch i'r arch fynd. 9 Yna cewch weld; os � i fyny am Beth-semes i gyfeiriad ei chynefin, ef sydd wedi achosi'r drwg mawr hwn i ni; ond os nad �, byddwn yn gwybod nad ei law ef a'n trawodd, ond mai cyd-ddigwyddiad oedd hyn." 10 Dyna a wnaeth y dynion, cymryd dwy fuwch fagu a'u rhwymo wrth fen a chadw eu lloi mewn cwt. 11 Rhoesant arch yr ARGLWYDD ar y fen, gyda'r gist a'r llygod aur a'r modelau o'u cornwydydd. 12 Cerddodd y buchod ar eu hunion ar y ffordd i gyfeiriad Beth-semes, gan frefu wrth fynd, ond yn cadw i'r un briffordd heb wyro i'r dde na'r chwith; a cherddodd arglwyddi'r Philistiaid ar eu h�l hyd at derfyn Beth-semes. 13 Yr oedd pobl Beth-semes yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn, a phan godasant eu llygaid a gweld yr arch, yr oeddent yn llawen o'i gweld. 14 Daeth y fen i faes Josua, gu373?r o Beth-semes, a sefyll yno yn ymyl carreg fawr, ac wedi iddynt ddarnio coed y fen, offrymasant y buchod yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD. 15 Yna tynnodd y Lefiaid i lawr arch yr ARGLWYDD, a'r gist oedd gyda hi yn cynnwys y pethau aur, a'u rhoi ar y garreg fawr; a'r dydd hwnnw offrymodd gwu375?r Beth-semes boethoffrymau ac ebyrth i'r ARGLWYDD. 16 Ac wedi i bum arglwydd y Philistiaid weld, aethant yn �l i Ecron yr un diwrnod. 17 Dyma restr y cornwydydd aur a anfonodd y Philistiaid i'r ARGLWYDD yn offrwm dros gamwedd: un dros Asdod, un dros Gasa, un dros Ascalon, un dros Gath ac un dros Ecron. 18 Hefyd llygod aur yn �l nifer holl ddinasoedd y Philistiaid a oedd dan y pum arglwydd, yn ddinas gaerog neu'n bentref agored. Saif y garreg fawr y gosodwyd arni arch yr ARGLWYDD yn dyst hyd y dydd hwn ym maes Josua o Beth-semes. 19 Trawyd rhai o wu375?r Beth-semes am iddynt edrych i mewn i arch yr ARGLWYDD. Trawyd deg a thrigain ohonynt, a galarodd y bobl oherwydd bod yr ARGLWYDD wedi gwneud lladdfa mor fawr yn eu plith. 20 A dywedodd gwu375?r Beth-semes, "Pwy a fedr sefyll o flaen yr ARGLWYDD, y Duw sanctaidd hwn? At bwy yr � oddi wrthym ni?" 21 Anfonasant negeswyr at drigolion Ciriath-jearim a dweud, "Anfonodd y Philistiaid arch yr ARGLWYDD yn �l, dewch i lawr i'w chyrchu."