1 Yna daeth gwu375?r Ciriath-jearim a chyrchu arch yr ARGLWYDD, a'i dwyn atynt i du375? Abinadab ar y bryn, a chysegru ei fab Eleasar i gadw arch yr ARGLWYDD. 2 Aeth llawer o amser heibio, tuag ugain mlynedd, er pan ddaeth yr arch i aros yn Ciriath-jearim, ac yr oedd holl du375? Israel yn hiraethu am yr ARGLWYDD. 3 Dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, "Os ydych yn dychwelyd at yr ARGLWYDD �'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau estron a'r Astaroth o'ch mysg; rhowch eich meddwl ar yr ARGLWYDD, a'i addoli ef yn unig, ac fe'ch achub o law y Philistiaid." 4 A bwriodd Israel ymaith y Baalim a'r Astaroth, ac addoli'r ARGLWYDD yn unig. 5 Yna dywedodd Samuel, "Casglwch holl Israel i Mispa, a gwedd�af drosoch ar yr ARGLWYDD." 6 Ac wedi iddynt ymgasglu i Mispa, a thynnu du373?r a'i arllwys gerbron yr ARGLWYDD, gwnaethant ympryd yno y diwrnod hwnnw a dweud, "Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD." Yn Mispa yr oedd Samuel yn barnu Israel. 7 Pan glywodd y Philistiaid fod Israel wedi dod ynghyd i Mispa, daeth arglwyddi'r Philistiaid i fyny yn erbyn Israel. Clywodd Israel hynny, a daeth arnynt ofn y Philistiaid, ac meddent wrth Samuel, 8 "Gwedd�a'n ddi-baid drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw iddo'n gwaredu ni o law'r Philistiaid." 9 Cymerodd Samuel oen sugno a'i offrymu'n boethoffrwm cyfan i'r ARGLWYDD; gwedd�odd ar yr ARGLWYDD dros Israel, ac atebodd yr ARGLWYDD ef. 10 Y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Samuel yn offrymu'r poethoffrwm, a'r Philistiaid yn nes�u i ymladd ag Israel, cododd yr ARGLWYDD storm daranau yn erbyn y Philistiaid a'u drysu, a gyrrwyd hwy ar ffo o flaen Israel. 11 Yna aeth gwu375?r Israel allan o Mispa, ac erlid y Philistiaid a'u taro nes dod islaw Beth-car. 12 Yna cymerodd Samuel faen, a'i osod rhwng Mispa a S�n a'i alw'n Eben-eser, a dweud, "Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD ni." 13 Darostyngwyd y Philistiaid ac ni ddaethant eto i diriogaeth Israel; yr oedd llaw'r ARGLWYDD yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel. 14 Adferwyd i Israel y trefi yr oedd y Philistiaid wedi eu dwyn oddi arni, o Ecron hyd Gath; a rhyddhaodd Israel eu terfynau o afael y Philistiaid. Yr oedd heddwch hefyd rhwng Israel a'r Amoriaid. 15 Bu Samuel yn barnu Israel ar hyd ei oes. 16 Bob blwyddyn �i ar gylchdaith i Fethel, Gilgal a Mispa, a barnu Israel yn y mannau hyn. 17 Yna dychwelai i Rama, oherwydd yno'r oedd ei gartref. Barnai Israel yno hefyd, a chododd yno allor i'r ARGLWYDD.