Welsh

2 Chronicles

4

1 Gwnaeth allor bres, ugain cufydd o hyd, ugain cufydd o led a deg cufydd o uchder. 2 Yna fe wnaeth y m�r o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch. 3 O amgylch y m�r, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd, yr oedd rhywbeth tebyg i ychen; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono. 4 Safai'r m�r ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn. 5 Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili. Yr oedd yn gallu dal tair mil o bathau. 6 Hefyd fe wnaeth ddeg noe i ymolchi ynddynt, pump ar y dde a phump ar y chwith, ac yn y rhain yr oeddent yn trochi offer y poethoffrwm; ond yn y m�r yr oedd yr offeiriaid yn ymolchi. 7 Gwnaeth ddeg canhwyllbren aur yn �l y cynllun, a'u rhoi yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith. 8 Gwnaeth ddeg bwrdd a'u gosod yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith, a hefyd gant o gawgiau aur. 9 Gwnaeth gyntedd yr offeiriaid a'r cyntedd mawr gyda'i ddorau, a thaenodd y dorau � phres. 10 Gosododd y m�r ar yr ochr dde-ddwyreiniol i'r tu375?. 11 Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen y gwaith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375? Dduw: 12 y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt; 13 y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; 14 y deg troli; y deg noe ar y trol�au; 15 y m�r a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. 16 Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD o bres gloyw. 17 Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen. 18 Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres. 19 Gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i du375? Dduw: yr allor aur a'r byrddau i ddal y bara gosod; 20 y canwyllbrennau a'u lampau o aur pur, i oleuo o flaen y gafell yn �l y ddefod; 21 y blodau, y llusernau, a'r gefeiliau aur, a hwnnw'n aur perffaith; 22 y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau o aur pur; o aur hefyd yr oedd drws y tu375? a'i ddorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf, a'r dorau o fewn y c�r.