Welsh

2 Chronicles

5

1 Wedi i Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhu375?'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r holl offer, a'u gosod yn nhrysordai tu375? Dduw. 2 Yna cynullodd Solomon henuriaid Israel a holl benaethiaid y llwythau a phennau-teuluoedd Israel i Jerwsalem, i gyrchu arch cyfamod yr ARGLWYDD o Ddinas Dafydd, sef Seion. 3 Daeth holl wu375?r Israel ynghyd at y brenin ar yr u373?yl yn y seithfed mis. 4 Wedi i holl henuriaid Israel gyrraedd, cododd y Lefiaid yr arch, 5 a chyrchodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yr arch a phabell y cyfarfod a'r holl lestri cysegredig oedd yn y babell. 6 Ac yr oedd y Brenin Solomon, a phawb o gynulleidfa Israel oedd wedi ym-gynnull ato, yno o flaen yr arch yn aberthu defaid a gwartheg rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif. 7 Felly y dygodd yr offeiriaid arch cyfamod yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghafell y tu375?, y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y cerwbiaid. 8 Yr oedd y cerwbiaid yn estyn eu hadenydd dros le'r arch ac yn cysgodi dros yr arch a'i pholion. 9 Yr oedd y polion yn ymestyn allan oddi wrth yr arch, fel y gellid gweld eu blaenau o flaen y gafell, ond nid oeddent i'w gweld o'r tu allan. Ac yno y maent hyd y dydd hwn. 10 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a osododd Moses ynddi yn Horeb, lle gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod �'r Israeliaid pan oeddent yn dod allan o'r Aifft. Yna daeth yr offeiriaid allan o'r cysegr. 11 Yr oedd pob offeiriad oedd yn bresennol, i ba ddosbarth bynnag y perthynai, wedi ei gysegru ei hun. 12 Yr oedd yr holl Lefiaid, sef y cantorion oedd yn perthyn i Asaff, Heman a Jeduthun, a'u meibion a'u brodyr, wedi eu gwisgo mewn lliain main ac yn sefyll i'r dwyrain o'r allor gyda symbalau, nablau a thelynau; ac yr oedd cant ac ugain o offeiriaid yn canu trwmpedau wrth eu hymyl. 13 Ac fel yr oedd yr utganwyr a'r cantorion yn uno mewn mawl a chlod i'r ARGLWYDD ac yn seinio trwmpedau, symbalau ac offer cerdd er moliant iddo, gan ddweud, "Yn wir da yw, ac y mae ei gariad hyd byth", llanwyd tu375?'r ARGLWYDD gan gwmwl. 14 Felly ni fedrai'r offeiriaid barhau i weinyddu o achos y cwmwl; yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi tu375? Dduw.