Welsh

2 Chronicles

6

1 Yna dywedodd Solomon: "Dywedodd yr ARGLWYDD y trigai yn y tywyllwch. 2 Adeiledais innau i ti du375? aruchel, a lle iti breswylio ynddo dros byth." 3 Yna tra oeddent i gyd yn sefyll, troes y brenin atynt a bendithio holl gynulleidfa Israel. 4 Dywedodd: "Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a gyflawnodd �'i law yr hyn a addawodd �'i enau wrth fy nhad Dafydd, pan ddywedodd, 5 'Er y dydd y dygais fy mhobl o wlad yr Aifft, ni ddewisais ddinas ymhlith holl lwythau Israel i adeiladu ynddi du375? i'm henw fod yno, ac ni ddewisais neb i fod yn arweinydd i'm pobl Israel. 6 Ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno, a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.' 7 Yr oedd ym mryd fy nhad Dafydd adeiladu tu375? i enw ARGLWYDD Dduw Israel, 8 ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, 'Yr oedd yn dy fryd adeiladu tu375? i'm henw, a da oedd dy fwriad, 9 ond nid tydi fydd yn adeiladu'r tu375?; dy fab, a enir iti, a adeilada'r tu375? i'm henw.' 10 Yn awr y mae'r ARGLWYDD wedi gwireddu'r addewid a wnaeth; yr wyf fi wedi dod i le fy nhad Dafydd i eistedd ar orsedd Israel, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, ac wedi adeiladu tu375? i enw ARGLWYDD Dduw Israel. 11 Yr wyf hefyd wedi gosod yno yr arch sy'n cynnwys y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD � phobl Israel." 12 Yna safodd Solomon o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngu373?ydd holl gynulleidfa Israel, a chodi ei ddwylo. 13 Yr oedd wedi gwneud llwyfan pres, pum cufydd o hyd, pum cufydd o led, a thri chufydd o uchder, a'i osod yng nghanol y cyntedd. Dringodd i fyny arno a phenlinio yng ngu373?ydd holl gynulleidfa Israel, gan estyn ei ddwylo tua'r nef 14 a dweud: "O ARGLWYDD Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nefoedd na'r ddaear, yn cadw cyfamod ac yn ffyddlon i'th weision sy'n dy wasanaethu �'u holl galon. 15 Canys cedwaist dy addewid i'th was Dafydd, fy nhad; heddiw cyflawnaist �'th law yr hyn a addewaist �'th enau. 16 Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, cadw'r addewid a wnaethost i'th was Dafydd, fy nhad, pan ddywedaist wrtho, 'Gofalaf na fyddi heb u373?r i eistedd ar orsedd Israel, dim ond i'th blant wylio'u ffordd, a chadw fy nghyfraith fel y gwnaethost ti.' 17 Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, safed y gair a leferaist wrth dy was Dafydd. 18 "Ai gwir yw y preswylia Duw ar y ddaear gyda meidrolion? Wele, ni all y nefoedd na nef y nefoedd dy gynnwys; pa faint llai y tu375? hwn a godais! 19 Eto cymer sylw o weddi dy was ac o'i ddeisyfiad, O ARGLWYDD fy Nuw; gwrando ar fy llef, a'r weddi y mae dy was yn ei gwedd�o ger dy fron. 20 Bydded dy lygaid, nos a dydd, ar y tu375? y dywedaist amdano, 'Fy enw a fydd yno': a gwrando'r weddi y bydd dy was yn ei gwedd�o tua'r lle hwn. 21 Gwrando hefyd ar ddeisyfiadau dy was a'th bobl Israel pan fyddant yn gwedd�o tua'r lle hwn. Gwrando o'r nef lle'r wyt yn preswylio, ac o glywed, maddau. 22 "Os bydd rhywun wedi troseddu yn erbyn rhywun arall ac yn gorfod cymryd llw, a'i dyngu gerbron dy allor yn y tu375? hwn, 23 gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th weision drwy gosbi'r drwgweithredwr yn �l ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn �l ei gyfiawnder. 24 "Os trechir dy bobl Israel gan y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt edifarhau a chyffesu dy enw, a gwedd�o ac erfyn arnat yn y tu375? hwn, 25 gwrando di o'r nef a maddau bechod dy bobl Israel, ac adfer hwy i'r tir a roddaist iddynt hwy ac i'w hynafiaid. 26 "Os bydd y nefoedd wedi cau, heb ddim glaw, am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt wedd�o tua'r lle hwn a chyffesu dy enw ac edifarhau am eu pechodau oherwydd iti eu cosbi, 27 gwrando di yn y nef a maddau bechod dy weision a'th bobl Israel, a dysg iddynt y ffordd dda y dylent ei rhodio; ac anfon law ar dy wlad, a roddaist yn etifeddiaeth i'th bobl. 28 "Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelynion yn gwarchae ar unrhyw un o'i dinasoedd � beth bynnag fo'r pla neu'r clefyd � 29 clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan unrhyw un a chan bob un o'th bobl Israel sy'n ymwybodol o'i glwy ei hun a'i boen, ac yn estyn ei ddwylo tua'r tu375? hwn; 30 gwrando hefyd o'r nef lle'r wyt yn preswylio, a maddau, a rho i bob un yn �l ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti'n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy'n adnabod pob calon ddynol; 31 felly byddant yn dy ofni ac yn rhodio yn dy ffyrdd holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid. 32 "Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw mawr a'th law gref a'th fraich estynedig, a gwedd�o tua'r tu375? hwn, 33 gwrando di o'r nef lle'r wyt yn preswylio, a gweithreda yn �l y cwbl y mae'r dieithryn yn ei ddeisyf arnat, er mwyn i holl bobloedd y byd adnabod dy enw a'th ofni yr un fath �'th bobl Israel, a sylweddoli mai ar dy enw di y gelwir y tu375? hwn a adeiledais i. 34 "Os bydd dy bobl yn mynd i ryfela �'u gelynion, pa ffordd bynnag yr anfoni hwy, ac yna iddynt wedd�o arnat tua'r ddinas hon a ddewisaist, a'r tu375? a godais i'th enw, 35 gwrando di o'r nef ar eu gweddi a'u hymbil, a chynnal eu hachos. 36 "Os pechant yn d'erbyn � oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu � a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad bell neu agos, 37 ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat yng ngwlad eu caethiwed �'r geiriau, 'Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni', 38 ac yna dychwelyd atat �'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad eu caethiwed lle y cawsant eu caethgludo, a gwedd�o arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tu375? a godais i'th enw, 39 gwrando di o'r nef lle'r wyt yn preswylio ar eu gweddi a'u deisyfiad, a chynnal eu hachos a maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn. 40 Felly, fy Nuw, bydded dy lygaid yn sylwi a'th glust yn gwrando ar y weddi a offrymir yn y lle hwn. 41 Cyfod, yn awr, O ARGLWYDD Dduw, a thyrd i'th orffwysfa, ti ac arch dy nerth. Bydded dy offeiriaid, O ARGLWYDD Dduw, wedi eu gwisgo ag iachawdwriaeth, a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu yn eu llwyddiant. 42 O ARGLWYDD Dduw, paid � throi oddi wrth wyneb dy eneiniog; cofia ffyddlondeb dy was Dafydd."