Welsh

2 Corinthians

6

1 Yr ydym ni, fel cydweithwyr, yn apelio atoch i beidio � gadael i'r gras a dderbyniasoch gan Dduw fynd yn ofer. 2 Oherwydd y mae Duw'n dweud: "Yn yr amser cymeradwy y gwrandewais arnat, a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth." Dyma, yn awr, yr amser cymeradwy; dyma, yn awr, ddydd iachawdwriaeth. 3 Nid ydym yn gosod unrhyw faen tramgwydd ar lwybr neb, rhag cael bai ar ein gweinidogaeth. 4 Yn hytrach, ym mhob peth yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw: yn ein dyfalbarhad mawr; yn ein gorthrymderau, ein gofidiau, a'n cyfyngderau; 5 yn ein profiadau o'r chwip, o garchar ac o derfysg; yn ein llafur, ein diffyg cwsg a'n newyn; 6 yn ein purdeb, ein gwybodaeth, ein goddefgarwch a'n caredigrwydd; yn yr Ysbryd Gl�n ac yn ein cariad diragrith; 7 yng ngair y gwirionedd ac yn nerth Duw, trwy ddefnyddio arfau cyfiawnder yn y llaw dde a'r llaw chwith, 8 doed parch, doed amarch, doed anghlod, doed clod. Twyllwyr y'n gelwir, a ninnau'n eirwir; 9 rhai dinod, a ninnau'n enwog; yn marw, ac eto byw ydym; dan gosb, ond heb gael ein lladd; 10 dan dristwch, ond bob amser yn llawenhau; mewn tlodi, ond yn gwneud llawer yn gyfoethog; heb ddim gennym, ac eto'n berchen pob peth. 11 Yr ydym wedi llefaru'n gwbl rydd wrthych, Gorinthiaid; y mae'n calon yn llydan agored tuag atoch. 12 Nid nyni sy'n cyfyngu arnoch, ond eich teimladau eich hunain. 13 I dalu'n �l � yr wyf yn siarad wrthych fel wrth blant � agorwch chwithau eich calonnau yn llydan. 14 Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? A pha gymdeithas sydd rhwng goleuni a thywyllwch? 15 Pa gytgord sydd rhwng Crist a Belial? Neu pa gyfran sydd i gredadun gydag anghredadun? 16 Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw: "Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith, a byddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau'n bobl i minnau. 17 Am hynny, dewch allan o'u plith hwy, ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd, a pheidiwch � chyffwrdd � dim byd aflan. Ac fe'ch derbyniaf chwi, 18 a byddaf i chwi yn dad, a byddwch chwi'n feibion a merched i mi, medd yr Arglwydd, yr Hollalluog."