1 Felly, gan fod gennym yr addewidion hyn, gyfeillion annwyl, ymlanhawn oddi wrth bob peth sy'n halogi cnawd ac ysbryd, gan berffeithio ein sancteiddrwydd yn ofn Duw. 2 Rhowch le i ni yn eich calonnau. Ni wnaethom gam � neb, na llygru neb, na chymryd mantais ar neb. 3 Nid i'ch condemnio yr wyf yn dweud hyn, oherwydd dywedais wrthych o'r blaen eich bod mor agos at ein calon, nes ein bod gyda'n gilydd, deued marwolaeth neu fywyd. 4 Y mae gennyf hyder mawr ynoch, a balchder mawr o'ch herwydd. Y mae fy nghwpan yn llawn o ddiddanwch, ac yn gorlifo � llawenydd yng nghanol ein holl orthrymder. 5 Hyd yn oed pan ddaethom i Facedonia, ni chawsom ddim llonydd yn ein gwendid; yn hytrach cawsom ein gorthrymu ym mhob ffordd � brwydrau oddi allan ac ofnau oddi mewn. 6 Ond y mae Duw, yr un sydd yn diddanu'r digalon, wedi ein diddanu ninnau trwy ddyfodiad Titus; 7 ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad ef, ond hefyd trwy'r diddanwch a gafodd ef ynoch chwi. Y mae wedi dweud wrthym am eich hiraeth amdanaf, am eich galar, ac am eich s�l drosof, nes gwneud fy llawenydd yn fwy byth. 8 Oherwydd er i mi beri loes i chwi �'m llythyr, nid yw'n flin gennyf; rwy'n gweld i'r llythyr hwnnw beri loes i chwi, o leiaf dros dro, 9 ac er y bu'n flin gennyf, yr wyf yn awr yn falch, nid am i chwi gael loes, ond am i'r loes droi'n edifeirwch. Oherwydd derbyniasoch eich loes mewn ffordd dduwiol, ac felly ni chawsoch ddim colled trwom ni. 10 Canys y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd dduwiol yn creu edifeirwch sydd yn arwain i iachawdwriaeth na ellir bod yn flin amdano; ond y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd fydol yn peri marwolaeth. 11 Ystyriwch ganlyniadau derbyn eich loes mewn ffordd dduwiol: y fath ymroddiad a barodd ynoch, ie, y fath hunanamddiffyniad, y fath ddicter, y fath ofn, y fath ddyhead, y fath s�l, y fath benderfyniad i gosbi'n gyfiawn. Ym mhob ffordd yr ydych wedi dangos eich bod yn ddi-fai yn y mater hwn. 12 Felly, er i mi yn wir ysgrifennu atoch, nid o achos y sawl a wnaeth y cam, nac o achos y sawl a'i dioddefodd, y gwneuthum hynny, ond er mwyn amlygu i chwi, yng ngu373?ydd Duw, gymaint yw eich ymroddiad trosom. 13 Dyna pam yr ydym yn awr wedi ein diddanu. Ond yn ogystal �'n diddanwch ni, cawsom lawenydd mwy o lawer yn llawenydd Titus, am i chwi oll roi esmwyth�d i'w ysbryd. 14 Oherwydd os wyf wedi ymffrostio rywfaint wrtho amdanoch chwi, ni chefais fy nghywilyddio, ond fel y mae popeth a ddywedais wrthych chwi yn wir, felly hefyd daeth fy ymffrost wrth Titus yn wir. 15 Y mae ei galon yn cynhesu fwyfwy tuag atoch o gofio ufudd-dod pob un ohonoch, a'r modd y derbyniasoch ef mewn ofn a dychryn. 16 Yr wyf yn llawenhau y gallaf ymddiried yn llwyr ynoch.