1 Yr henuriad at yr arglwyddes etholedig a'i phlant. Yr wyf fi, ac nid myfi yn unig, ond pawb sydd wedi dod i wybod y gwirionedd, yn eich caru yn y gwirionedd, 2 er mwyn y gwirionedd sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni am byth. 3 Bydd gras, trugaredd a thangnefedd gyda ni, oddi wrth Dduw y Tad ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. 4 Bu'n llawenydd mawr i mi gael rhai o'th blant di yn rhodio yn y gwirionedd, fel y cawsom orchymyn gan y Tad. 5 Ac yn awr yr wyf yn erfyn arnat, arglwyddes, ond nid fel un yn ysgrifennu iti orchymyn newydd; gorchymyn a oedd gennym o'r dechrau ydyw, sef ein bod i garu ein gilydd. 6 A hyn yw cariad: ein bod yn rhodio yn �l ei orchmynion ef. A'r gorchymyn hwn, fel y clywsoch o'r dechreuad, yw eich bod i rodio mewn cariad. 7 Oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i'r byd, y rhai nad ydynt yn cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd; dyma'r twyllwr a'r Anghrist. 8 Gwyliwch eich hunain, rhag ichwi golli ffrwyth ein llafur, ond derbyn eich gwobr yn gyflawn. 9 Pob un sy'n mynd rhagddo heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo; y sawl sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, y mae'r Tad a'r Mab ganddo. 10 Os daw rhywun atoch heb ddod �'r ddysgeidiaeth hon, peidiwch �'i dderbyn i'ch tu375? na'i gyfarch ef, 11 oherwydd y mae'r sawl sy'n ei gyfarch yn gyfrannog o'i weithredoedd drygionus. 12 Er bod gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atoch, gwell gennyf beidio �'u hysgrifennu � phapur ac inc; rwy'n gobeithio dod atoch, a siarad � chwi wyneb yn wyneb, ac yna bydd ein llawenydd yn gyflawn. 13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy gyfarch di.