1 Yr henuriad at Gaius, y gu373?r annwyl yr wyf fi yn ei garu yn y gwirionedd. 2 Gyfaill annwyl, yr wyf yn dymuno iechyd iti, a llwyddiant ym mhob peth, fel y mae dy enaid yn llwyddo. 3 Oherwydd yr oedd yn llawenydd mawr i mi pan fyddai cyfeillion yn dod ac yn tystio i'th wirionedd di, i'r modd yr wyt ti'n rhodio yn y gwirionedd. 4 Nid oes dim sy'n fwy o lawenydd i mi na chlywed bod fy mhlant yn rhodio yn y gwirionedd. 5 Gyfaill annwyl, yr wyt ti'n gwneud peth teilwng wrth wasanaethu'r cyfeillion, a hwythau'n ddieithriaid. 6 Y maent hwy wedi tystio gerbron yr eglwys i'th gariad di; da ti, rho iddynt ar eu taith gymorth teilwng o Dduw. 7 Oherwydd er mwyn yr Enw yr aethant allan, heb dderbyn dim gan y Cenhedloedd. 8 Felly dylem ni gynorthwyo pobl o'r fath, er mwyn inni fod yn gydweithwyr dros y gwirionedd. 9 Ysgrifennais air at yr eglwys, ond nid yw Diotreffes, sy'n chwenychu bod yn ben arnynt, yn derbyn ein hawdurdod. 10 Felly, pan ddof, byddaf yn galw sylw at yr hyn y mae'n ei wneud, yn clebran yn ein herbyn � geiriau drygionus; ac yn wir, nid yw'n fodlon ar eiriau � y mae'n gwrthod derbyn y cyfeillion, ac yn gwahardd y rhai sydd am eu derbyn, ac yn eu bwrw allan o'r eglwys. 11 Gyfaill annwyl, efelycha ddaioni, nid drygioni. Y sawl sy'n gwneud daioni, o Dduw y mae; ond y sawl sy'n gwneud drygioni, nid yw wedi gweld Duw. 12 Y mae gair da i Demetrius gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun; ac yr ydym ninnau hefyd yn tystio iddo, a gwyddost fod ein tystiolaeth ni yn wir. 13 Y mae gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atat, ond gwell gennyf beidio ag ysgrifennu atat � phen ac inc. 14 Rwy'n gobeithio dy weld yn fuan, a chawn siarad wyneb yn wyneb. {cf2 (1:15)} Tangnefedd i ti! Y mae'r cyfeillion yma yn dy gyfarch. Cyfarch di y cyfeillion yna, bob un wrth ei enw.