1 Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Trefna dy du375?, oherwydd yr wyt ar fin marw; ni fyddi fyw.'" 2 Trodd yntau ei wyneb at y pared a gwedd�o ar yr ARGLWYDD, a dweud: 3 "O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di mewn cywirdeb ac � chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg." Yna beichiodd wylo. 4 A chyn bod Eseia wedi gadael y cyntedd canol daeth gair yr ARGLWYDD ato gan ddweud, 5 "Dos yn �l, a dywed wrth Heseceia, tywysog fy mhobl, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; wele, yr wyf am dy iach�u. Ymhen tridiau byddi'n mynd i fyny i'r deml. 6 Ychwanegaf bymtheng mlynedd at dy oes, a gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.'" 7 Yna dywedodd Eseia wrthynt, "Cymerwch bowltis ffigys." Ac wedi iddynt wneud hynny a'i osod ar y cornwyd, fe wellodd. 8 Gofynnodd Heseceia i Eseia, "Beth yw'r arwydd y bydd yn fy iach�u, ac yr af i fyny i'r deml ymhen tridiau?" 9 Dywedodd Eseia, "Dyma fydd yr arwydd iti oddi wrth yr ARGLWYDD y bydd yn cyflawni'r hyn a ddywedodd: bydd y cysgod yn symud ddeg gris ymlaen neu ddeg gris yn �l." 10 Dyw-edodd Heseceia, "Y mae'n haws i'r cysgod symud ymlaen ddeg gris; na, aed y cysgod yn �l ddeg gris." 11 Galwodd y proffwyd Eseia ar yr ARGLWYDD, a gwnaeth yntau i'r cysgod fynd yn ei �l ddeg gris, lle'r arferai fynd i lawr ar risiau Ahas. 12 Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael. 13 Croesawodd Heseceia hwy a dangos iddynt ei drysordy i gyd, yr arian a'r aur, a'r perlysiau a'r olew persawrus, a'i arfdy a phopeth oedd yn ei storfeydd. Nid oedd dim yn ei balas na'i deyrnas na ddangosodd Heseceia iddynt. 14 Yna daeth y proffwyd Eseia at y Brenin Heseceia a gofyn, "Beth a ddywedodd y dynion hyn, ac o ble y daethant?" Atebodd Heseceia, "O wlad bell, o Fabilon y daethant." 15 Yna holodd, "Beth a welsant yn dy du375??" Dywedodd Heseceia, "Gwelsant y cwbl sydd yn fy nhu375?; nid oes dim yn fy nhrysorfa nad wyf wedi ei ddangos iddynt." 16 Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, "Gwrando air yr ARGLWYDD: 17 'Wele 'r dyddiau yn dod pan ddygir popeth sydd yn dy balas, a phopeth a grynhodd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,' medd yr ARGLWYDD. 18 Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, had dy gorff, a byddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon." 19 Atebodd Heseceia, "o'r gorau; gair yr ARGLWYDD yr wyt yn ei lefaru." Meddyliai, "Oni fydd heddwch a sicrwydd dros fy nghyfnod i?" 20 Am weddill hanes Heseceia, a'i holl wrhydri, ac fel y gwnaeth gronfa ddu373?r a'r ffos a dd�i � du373?r i'r ddinas, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? 21 Bu farw Heseceia, a daeth Manasse yn frenin yn ei le.