Welsh

2 Kings

21

1 Deuddeng mlwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am hanner cant a phump o flynyddoedd yn Jerwsalem. Heffsiba oedd enw ei fam. 2 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn �l ffieidd-dra'r cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid. 3 Ailadeiladodd yr uchelfeydd a ddinistriodd ei dad Heseceia, a chododd allorau i Baal a gwneud delw o Asera, fel y gwnaeth Ahab brenin Israel, ac ymgrymodd i holl lu'r nef a'u haddoli. 4 Adeiladodd allorau yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani, "Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw." 5 Cododd allorau i holl lu'r nef yn nau gyntedd y deml. 6 Parodd i'w fab fynd trwy d�n, ac arferodd hudoliaeth a swynion, a bu'n ymh�l ag ysbrydion a dewiniaid. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio. 7 Gwnaeth ddelw o Asera a'i gosod yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani wrth Ddafydd a'i fab Solomon, "Yn y tu375? hwn ac yn Jerwsalem, y lle a ddewisais allan o holl lwythau Israel, yr wyf am osod fy enw yn dragwyddol. 8 Ni throf Israel allan mwyach o'r tir a roddais i'w hynafiaid, ond iddynt ofalu gwneud fel y gorchmynnais iddynt yn y gyfraith a roes fy ngwas Moses iddynt." 9 Eto ni fynnent wrando, ac arweiniodd Manasse hwy i ddrygioni gwaeth na'r eiddo'r cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid. 10 Yna dywedodd yr ARGLWYDD trwy ei weision y proffwydi, 11 "Am i Manasse brenin Jwda wneud y ffieidd-dra hwn, a gweithredu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen, ac arwain Jwda hefyd i bechu gyda'i eilunod, 12 fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Dygaf y fath ddrwg ar Jerwsalem a Jwda fel y bydd yn merwino clustiau pwy bynnag a glyw. 13 Rhoddaf ar Jerwsalem yr un llinyn ag ar Samaria, a'r un mesur ag ar du375? Ahab. Golchaf Jerwsalem fel y bydd un yn golchi llestr ac yna'n ei droi ar ei wyneb. 14 Byddaf yn gwrthod gweddill fy etifeddiaeth, ac yn eu rhoi yn llaw eu holl elynion i fod yn anrhaith ac yn ysbail, 15 am eu bod wedi gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg a'm digio, o'r dydd y daeth eu hynafiaid o'r Aifft hyd heddiw." 16 Tywalltodd Manasse gymaint o waed dieuog nes llenwi Jerwsalem drwyddi, heb s�n am ei bechod yn arwain Jwda i bechu a gwneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. 17 Am weddill hanes Manasse, a'i holl waith a'r pechu a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? 18 A bu farw Manasse, a'i gladdu yng ngardd ei balas, sef yng ngardd Ussa. A daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le. 19 Dwy ar hugain oed oedd Amon pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem. Mesulemeth merch Harus o Iotba oedd enw ei fam. 20 Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei dad Manasse. 21 Dilynodd yn �l troed ei dad, a gwasanaethu ac addoli'r un eilunod �'i dad. 22 Gwrthododd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD. 23 Cynllwynodd gweision Amon yn ei erbyn, a lladd y brenin yn ei du375?; 24 ond lladdwyd yr holl rai a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le. 25 Am weddill hanes Amon, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? 26 Claddwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa, a daeth ei fab Joseia yn frenin yn ei le.