Welsh

Colossians

2

1 Oherwydd yr wyf am ichwi wybod cymaint yw fy ymdrech drosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea, a phawb sydd heb fy ngweld wyneb yn wyneb. 2 Fy nod yw eu calonogi a'u clymu ynghyd mewn cariad, iddynt gael holl gyfoeth y sicrwydd a ddaw yn sg�l dealltwriaeth, ac iddynt amgyffred dirgelwch Duw, sef Crist. 3 Ynddo ef y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. 4 Yr wyf yn dweud hyn rhag i neb eich arwain ar gyfeiliorn �'u hymadrodd twyllodrus. 5 Oherwydd, er fy mod yn absennol yn y cnawd, yr wyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenhau wrth weld eich rhengoedd disgybledig a chadernid eich ffydd yng Nghrist. 6 Felly, gan eich bod wedi derbyn Crist Iesu, yr Arglwydd, dylech fyw ynddo ef. 7 Cadwch eich gwreiddiau ynddo, gan gael eich adeiladu ynddo, a'ch cadarnhau yn y ffydd fel y'ch dysgwyd, a bod yn ddibrin eich diolch. 8 Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn �l traddodiad dynol, yn �l ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn �l Crist. 9 Oherwydd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio'n gorfforol, 10 ac yr ydych chwithau wedi eich dwyn i gyflawnder ynddo ef. Y mae ef yn ben ar bob tywysogaeth ac awdurdod. 11 Ynddo ef hefyd yr enwaedwyd arnoch ag enwaediad nad yw o waith llaw, ond yn hytrach o ddiosg y corff cnawdol; hwn yw enwaediad Crist. 12 Claddwyd chwi gydag ef yn eich bedydd, ac yn y bedydd hefyd fe'ch cyfodwyd gydag ef drwy ffydd yn nerth Duw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw. 13 Ac er eich bod yn feirw yn eich camweddau a'ch cnawd dienwaededig, fe'ch gwnaeth chwi yn fyw gydag ef. Y mae wedi maddau inni ein holl gamweddau, 14 ac wedi diddymu'r ddogfen oedd yn ein rhwymo i'r gofynion a'n gwn�i ni yn ddyledwyr. Y mae wedi ei bwrw hi o'r neilltu; fe'i hoeliodd ar y groes. 15 Diarfogodd y tywysogaethau a'r awdurdodau, a'u gwneud yn sioe gerbron y byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth arnynt ar y groes. 16 Peidiwch, felly, � chymryd eich barnu gan neb ynglu375?n � bwyta ac yfed, neu mewn perthynas � gu373?yl neu newydd-loer neu Saboth. 17 Cysgod yw'r rhain o'r pethau sy'n dod; Crist biau'r sylwedd. 18 Peidiwch � chymryd eich gwahardd gan ddyfarniad neb sydd �'i fryd ar ddiraddio'r hunan, ac ar addoli angylion ar sail ei weledigaethau. Meddwl cnawdol sy'n peri i rai felly ymchwyddo heb achos, 19 ac nid oes ganddynt afael ar y pen. Ond oddi wrth y pen y mae'r holl gorff yn cael ei gynnal a'i gydgysylltu trwy'r cymalau a'r gewynnau, ac felly'n prifio � phrifiant sydd o Dduw. 20 Os buoch farw gyda Christ i ysbrydion elfennig y cyfanfyd, pam yr ydych, fel petaech yn byw o hyd yn y byd, yn ymddarostwng i orchmynion: 21 "Peidiwch � chyffwrdd", "Peidiwch � blasu", "Peidiwch � thrafod" � 22 a hynny ynglu375?n � phethau sydd i gyd yn darfod wrth eu defnyddio? Dilyn rheolau ac athrawiaethau dynol yr ydych. 23 Y mae i'r fath bethau enw doethineb, gyda'u crefydd wneud, eu hunanddiraddiad, a'u triniaeth lem o'r corff. Ond nid ydynt o unrhyw werth i atal cnawdolrwydd.