Welsh

Colossians

3

1 Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. 2 Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear. 3 Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. 4 Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant. 5 Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth. 6 O achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai anufudd. 7 Dyna oedd eich ffordd chwithau o ymddwyn ar un adeg, pan oeddech yn byw yn eu canol. 8 Ond yn awr, rhowch heibio'r holl bethau hyn: digofaint, llid, drwgdeimlad, cabledd a bryntni o'ch genau. 9 Peidiwch � dweud celwydd wrth eich gilydd, gan eich bod wedi diosg yr hen natur ddynol, ynghyd �'i gweithredoedd, 10 ac wedi gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd, sy'n cael ei hadnewyddu mewn gwybodaeth ar ddelw ei Chreawdwr. 11 Nid oes yma ragor rhwng Groegiaid ac Iddewon, enwaediad a dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth, rhydd; ond Crist yw pob peth, a Christ sydd ym mhob peth. 12 Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch am-danoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd. 13 Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gu373?yn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau. 14 Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd. 15 Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar. 16 Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. � chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol. 17 Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef. 18 Chwi wragedd, byddwch ddar-ostyngedig i'ch gwu375?r; hyn yw eich dyletswydd fel pobl yr Arglwydd. 19 Chwi wu375?r, carwch eich gwragedd, a pheidiwch � bod yn llym wrthynt. 20 Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth, oherwydd hyn sydd gymeradwy ym mhobl yr Arglwydd. 21 Chwi dadau, peidiwch � chythruddo eich plant, rhag iddynt ddigalonni. 22 Chwi gaethweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistri daearol, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond mewn unplygrwydd calon yn ofn yr Arglwydd. 23 Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch �'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall. 24 Gwyddoch mai oddi wrth yr Arglwydd y byddwch yn derbyn yr etifeddiaeth yn wobr. Gwasanaethwch Grist, eich Meistr chwi. 25 Oherwydd y sawl sy'n gwneud cam fydd yn derbyn y cam yn �l; nid oes ffafriaeth.