Welsh

Daniel

1

1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gwarchae arni. 2 A rhoddodd yr Arglwydd Jehoiacim brenin Jwda yn ei law, a rhai o lestri tu375? Dduw, ac aeth yntau � hwy i wlad Sinar a'u cadw yn nhrysordy ei dduw. 3 Yna gorchmynnodd y brenin i Aspenas, ei brif swyddog, ddewis, o blith teulu brenhinol Israel a'r penaethiaid, 4 rai bechgyn golygus heb unrhyw nam corfforol arnynt, yn hyddysg ym mhob gwyddor, yn ddeallus a gwybodus, ac yn gymwys i wasanaethu llys y brenin, ac iddo'u trwytho yn ll�n ac iaith y Caldeaid. 5 Trefnodd y brenin iddynt dderbyn bwyd a gwin bob dydd o'i fwrdd ei hun, a chael eu hyfforddi am dair blynedd cyn mynd yn weision i'r llys. 6 Yn eu mysg yr oedd Jwdeaid, o'r enwau Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; 7 ond galwodd y prif swyddog Daniel yn Beltesassar, Hananeia yn Sadrach, Misael yn Mesach, ac Asareia yn Abednego. 8 Penderfynodd Daniel beidio �'i halogi ei hun � bwyd a gwin o fwrdd y brenin, ac erfyniodd ar y prif swyddog i'w arbed rhag cael ei halogi. 9 Parodd Duw i'r prif swyddog ymddwyn yn ffafriol a charedig at Daniel, 10 ond dywedodd y prif swyddog wrth Daniel, "Rwy'n ofni f'arglwydd frenin; ef sydd wedi pennu'ch bwyd a'ch diod, a phe sylwai eich bod yn edrych yn fwy gwelw na'ch cyfeillion byddech yn peryglu fy mywyd." 11 Dywedodd Daniel wrth y swyddog a osododd y prif swyddog i ofalu am Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia, 12 "Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod: rhodder inni lysiau i'w bwyta a du373?r i'w yfed, 13 ac wedyn cymharu'n gwedd ni a gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin. Yna gwna �'th weision fel y gweli'n dda." 14 Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod. 15 Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin. 16 Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt. 17 Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd. 18 Pan ddaeth yr amser a benodwyd gan y brenin i'w dwyn i'r llys, cyflwynodd y prif swyddog hwy i Nebuchadnesar. 19 Ar �l i'r brenin siarad � hwy, ni chafwyd neb yn eu mysg fel Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; felly daethant hwy yn weision i'r brenin. 20 A phan fyddai'r brenin yn eu holi ar unrhyw fater o ddoethineb a deall, byddai'n eu cael ddengwaith yn well na holl ddewiniaid a swynwyr ei deyrnas. 21 A bu Daniel yno hyd flwyddyn gyntaf y Brenin Cyrus.