1 "Dyma enwau'r llwythau. Ar derfyn y gogledd, wrth ymyl ffordd Hethlon i Lebo-hamath a Hasar-enan, gyda Damascus ar derfyn y gogledd at ymyl Hamath, ac yn ymestyn o ddwyrain i orllewin, bydd Dan: un gyfran. 2 Ar derfyn Dan, o ddwyrain i orllewin, bydd Aser: un gyfran. 3 Ar derfyn Aser, o ddwyrain i orllewin, bydd Nafftali: un gyfran. 4 Ar derfyn Nafftali, o ddwyrain i orllewin, bydd Manasse: un gyfran. 5 Ar derfyn Manasse, o ddwyrain i orllewin, bydd Effraim: un gyfran. 6 Ar derfyn Effraim, o ddwyrain i orllewin, bydd Reuben: un gyfran. 7 Ar derfyn Reuben, o ddwyrain i orllewin, bydd Jwda: un gyfran. 8 Ar derfyn Jwda, o ddwyrain i orllewin, bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig; bydd yn bum mil ar hugain o gufyddau o led, a bydd yn ymestyn o ddwyrain i orllewin yn gyfartal � chyfran un o'r llwythau; a bydd y cysegr yn ei chanol. 9 Bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig i'r ARGLWYDD yn bum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led. 10 Dyma fydd yn gyfran gysegredig i'r offeiriaid: cyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ar ochr y gogledd, deng mil o led ar ochr y gorllewin, deng mil o led ar ochr y dwyrain, a phum mil ar hugain o hyd ar ochr y de; ac yn y canol bydd cysegr yr ARGLWYDD. 11 Bydd y gyfran hon i'r offeiriaid cysegredig o deulu Sadoc a fu'n ffyddlon i'm gwasanaethu, heb fynd ar gyfeiliorn fel y gwnaeth y Lefiaid pan aeth yr Israeliaid ar grwydr. 12 Bydd yn gyfran arbennig iddynt hwy o'r rhan gysegredig o'r tir; bydd yn gyfran gysegredig yn terfynu ar gyfran y Lefiaid. 13 Dyma fydd i'r Lefiaid: cyfran o dir pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led, yn rhedeg yn gyfochrog � therfyn yr offeiriaid; pum mil ar hugain o gufyddau fydd ei hyd cyfan, a'i led yn ddeng mil o gufyddau. 14 Ni ch�nt werthu dim ohono, na'i gyfnewid; ni ellir ei drosglwyddo, oherwydd dyma'r gorau o'r tir, ac y mae'n gysegredig i'r ARGLWYDD. 15 "Bydd y gweddill, sef pum mil o gufyddau o led a phum mil ar hugain o hyd, ar gyfer defnydd cyffredin y ddinas, ar gyfer tai a phorfeydd. Bydd y ddinas yn ei ganol, 16 a'i mesuriadau fel a ganlyn: ar ochr y gogledd, pedair mil a hanner o gufyddau; ar ochr y de, pedair mil a hanner; ar ochr y dwyrain, pedair mil a hanner, ac ar ochr y gorllewin, pedair mil a hanner. 17 Bydd y tir pori ar gyfer y ddinas yn ddau gan cufydd a hanner ar ochr y gogledd, dau gant a hanner ar ochr y de, dau gant a hanner ar ochr y dwyrain, a dau gant a hanner ar ochr y gorllewin. 18 Bydd y gweddill yn rhedeg yn gyfochrog � therfyn y gyfran gysegredig, a bydd o'r un hyd � hi, sef deng mil o gufyddau ar ochr y dwyrain a deng mil ar ochr y gorllewin. Bydd ei gynnyrch yn fwyd i weithwyr y ddinas. 19 O holl lwythau Israel y daw gweithwyr y ddinas a fydd yn ei drin. 20 Bydd y gyfran gyfan yn sgw�r o bum mil ar hugain o gufyddau ar bob ochr; fe'i neilltuir yn gyfran gysegredig ynghyd ag eiddo'r ddinas. 21 "Bydd y gweddill a adewir oddeutu'r gyfran gysegredig ac eiddo'r ddinas yn perthyn i'r tywysog. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain ar un ochr, ac i'r gorllewin ar yr ochr arall i'r gyfran gysegredig o bum mil ar hugain o gufyddau; bydd yn rhedeg yn gyfochrog � chyfrannau'r llwythau, ac yn perthyn i'r tywysog; bydd y gyfran gysegredig a chysegr y deml yn y canol. 22 Felly bydd eiddo'r Lefiaid ac eiddo'r ddinas yng nghanol eiddo'r tywysog, a bydd eiddo'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin. 23 "Dyma weddill y llwythau: yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin bydd Benjamin: un gyfran. 24 Ar derfyn Benjamin, o ddwyrain i orllewin, bydd Simeon: un gyfran. 25 Ar derfyn Simeon, o ddwyrain i orllewin, bydd Issachar: un gyfran. 26 Ar derfyn Issachar, o ddwyrain i orllewin, bydd Sabulon: un gyfran. 27 Ar derfyn Sabulon, o ddwyrain i orllewin, bydd Gad: un gyfran. 28 Bydd terfyn de Gad yn rhedeg o Tamar at ddyfroedd Meriba-cades, ac ar hyd yr afon at y M�r Mawr. 29 "Dyma'r tir a roddi'n etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma'u cyfrannau, medd yr Arglwydd DDUW. 30 "Dyma'r ffyrdd allan o'r ddinas: ar ochr y gogledd, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, 31 fe enwir pyrth y ddinas ar �l llwythau Israel. Y tri phorth ar ochr y gogledd fydd porth Reuben, porth Jwda a phorth Lefi. 32 Ar ochr y dwyrain, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Joseff, porth Benjamin a phorth Dan. 33 Ar ochr y de, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Simeon, porth Issachar a phorth Sabulon. 34 Ar ochr y gorllewin, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Gad, porth Aser a phorth Nafftali. 35 Bydd y pellter o amgylch y ddinas yn ddeunaw mil o gufyddau. Ac enw'r ddinas o'r dydd hwn fydd, 'Y mae'r ARGLWYDD yno'."