Welsh

Deuteronomy

15

1 Ar ddiwedd pob saith mlynedd yr wyt i ddileu dyledion. 2 Dyma sut y gwneir hynny: bydd pob echwynnwr yn dileu pob dyled sy'n ddyledus iddo, heb bwyso am ad-daliad oddi wrth gymydog na pherthynas, pan gyhoeddir yn enw'r ARGLWYDD ei bod yn bryd dileu dyledion. 3 Cei bwyso am ad-daliad gan estron, ond yr wyt i ddileu beth bynnag sy'n ddyledus iti gan dy berthynas. 4 Ni fydd byth dlotyn yn eich plith, oherwydd y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn sicr o'th fendithio yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth, 5 ond iti wrando'n ofalus ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i gadw'n ddyfal yr holl orchymyn hwn yr wyf fi yn ei roi iti heddiw. 6 A phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio, fel yr addawodd iti, yna byddi di'n rhoi benthyg i genhedloedd lawer, heb i ti fenthyca gan neb; a byddi'n rheoli cenhedloedd lawer, heb iddynt hwy dy reoli di. 7 Os bydd un yn dlawd ymhlith dy berthnasau yn un o'th drefi yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, paid � chaledu dy galon na chau dy law yn ei erbyn. 8 Yn hytrach agor dy law yn llydan iddo, ac ar bob cyfrif rho'n fenthyg iddo ddigon ar gyfer ei angen. 9 Pan fydd y seithfed flwyddyn, blwyddyn dileu dyledion, yn agos�u, gwylia rhag coleddu meddyliau annheilwng ac edrych yn gas ar dy berthynas tlawd a gwrthod rhoi iddo; bydd yntau wedyn yn apelio at yr ARGLWYDD yn dy erbyn, ac fe'th geir yn euog o bechod. 10 Rho'n hael iddo, heb warafun yn dy galon wrth roi, ac oherwydd hyn bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl waith ac ym mhopeth a wnei. 11 Ni fydd prinder tlodion yn y tir; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti agor dy law yn hael i'th berthynas anghenus a thlawd yn dy wlad. 12 Os gwerthir iti gydwladwr, boed ddyn neu ddynes, a hwnnw'n dy wasanaethu am chwe blynedd, yr wyt i'w ryddhau yn y seithfed flwyddyn. 13 A phan fyddi'n ei ryddhau, paid �'i anfon i ffwrdd yn waglaw; 14 rho iddo gynhysgaeth hael o'th ddefaid a'th lawr dyrnu a'th winwryf, fel y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio di. 15 Cofia mai caethwas fuost tithau yng ngwlad yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi dy waredu. Dyna pam yr wyf yn gorchymyn hyn iti heddiw. 16 Ond os dywed dy was wrthyt na fyn ymadael � thi am ei fod yn hoff ohonot ti a'th deulu, a'i bod yn dda arno gyda thi, 17 yna cymer fynawyd a'i wthio trwy ei glust i'r drws, ac yna bydd yn gaethwas iti am byth; gwna'r un modd gyda'th gaethferch. 18 Pan fyddi'n rhyddhau caethwas, paid � gofidio, oherwydd yr oedd ei wasanaeth iti dros chwe blynedd yn werth dwywaith t�l gwas cyflog. A bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn y cwbl a wnei. 19 Yr wyt i gysegru i'r ARGLWYDD dy Dduw bob gwryw cyntafanedig a enir i'th wartheg a'th ddefaid. Nid wyt i lafurio � chyntafanedig dy wartheg, na chneifio cyntafanedig dy ddefaid. 20 Yr wyt ti a'th deulu i'w bwyta'n flynyddol gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis. 21 Os bydd nam arno, ac yntau'n gloff neu'n ddall, neu � rhyw nam difrifol arall arno, paid �'i aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. 22 Caiff yr aflan a'r gl�n fel ei gilydd ei fwyta yn dy drefi, fel petai'n iwrch neu garw. 23 Er hynny, nid ydych i fwyta'r gwaed, ond ei dywallt fel du373?r ar y ddaear.