1 Yr wyt i gadw mis Abib a dathlu Pasg i'r ARGLWYDD dy Dduw, oherwydd ym mis Abib y daeth ef � thi o'r Aifft liw nos. 2 Yr wyt i aberthu offrwm Pasg i'r ARGLWYDD dy Dduw o'th ddefaid neu o'th wartheg, yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis yn drigfan i'w enw. 3 Nid wyt i fwyta gydag ef ddim wedi ei lefeinio; ond am saith diwrnod yr wyt i fwyta bara croyw, bara cystudd, oherwydd ar frys y daethost allan o wlad yr Aifft. Gwna hyn er mwyn iti gofio tra byddi byw y dydd y daethost allan o wlad yr Aifft. 4 Ni chaniateir surdoes o fewn dy holl derfynau am saith diwrnod, ac nid oes dim o'r cig a leddaist gyda'r hwyr ar y dydd cyntaf i aros tan y bore. 5 Ni chei ladd offrwm y Pasg o fewn yr un o'r trefi y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti, 6 ond yn unig yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw. Yno yr wyt i ladd offrwm y Pasg gyda'r hwyr, ar fachlud haul, yr amser y daethost allan o'r Aifft. 7 Byddi'n ei ferwi a'i fwyta yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis; yna yn y bore byddi'n troi'n �l ac yn dychwelyd adref. 8 Am chwe diwrnod byddi'n bwyta bara croyw, ond ar y seithfed dydd bydd cynulliad terfynol i'r ARGLWYDD dy Dduw; nid wyt i wneud dim gwaith arno. 9 Yr wyt i gyfrif saith wythnos, gan ddechrau o'r diwrnod cyntaf y rhoddir y cryman yn yr u375?d. 10 Yna byddi'n dathlu gu373?yl yr Wythnosau i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan roi offrwm gwirfodd drosot dy hun yn �l fel y bydd yr ARGLWYDD wedi dy fendithio. 11 Byddi'n llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti, dy fab a'th ferch, dy gaethwas a'th gaethferch, y Lefiad sydd yn dy drefi a'r dieithryn, a'r amddifad a'r weddw sydd gyda thi, yn y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw. 12 Cofia mai caethwas fuost ti yn yr Aifft, a bydd yn ofalus i gadw'r rheolau hyn. 13 Yr wyt i gadw gu373?yl y Pebyll am saith diwrnod wedi iti gasglu cynnyrch dy lawr-dyrnu a'th winwryf; 14 a byddi'n llawenhau ar dy u373?yl, ti, dy fab a'th ferch, dy gaethwas a'th gaethferch, y Lefiad a'r dieithryn, a'r amddifad a'r weddw sydd yn dy drefi. 15 Am saith diwrnod y byddi'n cadw gu373?yl i'r ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl gynnyrch ac ym mhopeth a wnei, a byddi'n wirioneddol lawen. 16 Teirgwaith y flwyddyn y mae dy holl wrywod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, sef ar u373?yl y Bara Croyw, ar u373?yl yr Wythnosau ac ar u373?yl y Pebyll. Nid yw neb i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD yn waglaw, 17 ond dylai pob un roi yn �l ei allu, yn �l y fendith a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti. 18 Yr wyt i benodi barnwyr a phenaethiaid ym mhob un o'r trefi a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i'th lwythau, ac y maent i farnu'r bobl yn gyfiawn. 19 Nid wyt i wyro barn na dangos ffafriaeth; nid wyt i gymryd llwgrwobr, oherwydd y mae'n dallu llygaid y doeth ac yn gwyro geiriau'r cyfiawn. 20 Cyfiawnder yn unig a ddilyni, er mwyn iti gael byw ac etifeddu'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw am ei rhoi iti. 21 Paid � phlannu unrhyw fath o bren Asera gerllaw yr allor a godi i'r ARGLWYDD dy Dduw. 22 A phaid � chodi un o'r colofnau sy'n atgas gan yr ARGLWYDD dy Dduw.