Welsh

Deuteronomy

17

1 Paid ag aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw nac ych na dafad ag unrhyw nam na dim difrifol arno, oherwydd y mae hynny'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw. 2 Os ceir yn un o'r trefi y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti ddyn neu ddynes yn eich mysg sy'n gwneud yr hyn sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD dy Dduw trwy droseddu yn erbyn ei gyfamod, 3 a'i fod, yn groes i'm gorchymyn, yn gwasanaethu ac yn addoli duwiau estron, prun ai'r haul neu'r lloer neu holl lu'r nef, 4 yna os clywi si am hyn, yr wyt i chwilio'n ddyfal; ac os yw'n wir ac yn sicr fod y ffieidd-dra hwn wedi ei gyflawni yn Israel, 5 yna tyrd �'r dyn neu'r ddynes sydd wedi gwneud y peth drygionus hwn allan i'r porth, a'i labyddio'n gelain � cherrig. 6 Ar dystiolaeth dau dyst neu dri y rhoir i farwolaeth; ni roir i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst. 7 Dwylo'r tystion sydd i daflu'r garreg gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo'r holl boblogaeth wedyn; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg. 8 Os cei yn dy dref achos llys sy'n rhy ddyrys iti, megis dyfarnu rhwng dwy blaid mewn achos o ddial gwaed, neu hawl, neu ymosod, yna dos yn ddi-oed i'r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis, 9 a gofyn yno i'r offeiriaid o Lefiaid, ac i'r barnwr a fydd yn y dyddiau hynny, roi'r ddedfryd iti. 10 Gwna fel y byddant hwy yn dweud wrthyt yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis, a gofala wneud popeth yn �l y cyfarwyddyd a roddant iti. 11 Yr wyt i weithredu yn �l y cyfarwyddyd a gei ganddynt a'r dyfarniad a roddant, heb wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth yr hyn a ddywedant wrthyt. 12 Pwy bynnag sy'n ddigon rhyfygus i beidio � gwrando ar yr offeiriad sy'n gweinyddu yno dros yr ARGLWYDD dy Dduw, neu ar y barnwr, bydded farw; felly y byddi'n dileu'r drwg o Israel. 13 Bydd y bobl i gyd yn clywed, a daw ofn arnynt, ac ni ryfygant mwyach. 14 Pan ddoi i'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a'i meddiannu a byw ynddi, ac yna dweud, "Yr wyf am gymryd brenin, fel yr holl genhedloedd o'm hamgylch", 15 yna'n wir cei gymryd y brenin y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis; ond un o blith dy frodyr yr wyt i'w gymryd yn frenin; ni elli ddewis dyn estron nad yw o blith dy frodyr. 16 Nid yw'r brenin i amlhau meirch iddo'i hun, nac i yrru ei bobl yn �l i'r Aifft er mwyn hynny, gan fod yr ARGLWYDD wedi eich gwahardd rhag dychwelyd ar hyd y ffordd honno. 17 Ac nid yw i luosogi gwragedd, rhag i'w galon fynd ar gyfeiliorn, nac i amlhau arian ac aur yn ormodol. 18 Pan ddaw i eistedd ar orsedd ei deyrnas, y mae i arwyddo copi iddo'i hun o'r gyfraith hon mewn llyfr yng ngu373?ydd yr offeiriaid o Lefiaid. 19 A bydd hwnnw ganddo i'w ddarllen holl ddyddiau ei fywyd, er mwyn iddo ddysgu ofni'r ARGLWYDD ei Dduw a chadw holl eiriau'r gyfraith hon, a gwneud yn �l y rheolau hyn, 20 rhag iddo ei ystyried ei hun yn uwch na'i gymrodyr, neu rhag iddo wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth y gorchymyn, ac er mwyn iddo estyn dyddiau ei frenhiniaeth yn Israel iddo'i hun a'i ddisgynyddion.