1 Os gweli ych neu ddafad sy'n eiddo i un o'th gymrodyr yn crwydro, paid �'i hanwybyddu, ond gofala ei dychwelyd iddo. 2 Os nad yw'r perchennog yn byw yn d'ymyl, na thithau'n gwybod pwy yw, dos �'r anifail adref a chadw ef nes y daw ei berchennog i chwilio amdano; yna rho ef yn ei �l. 3 Gwna'r un modd os doi o hyd i'w asyn, neu ei glogyn neu unrhyw beth arall a gollir gan un o'th gymrodyr; ni elli ei anwybyddu. 4 Os gweli asyn neu ych un o'th gymrodyr wedi cwympo ar y ffordd, nid wyt i'w anwybyddu; gofala roi help iddo i'w godi. 5 Nid yw gwraig i wisgo dillad dyn, na dyn i wisgo dillad gwraig; oherwydd y mae pob un sy'n gwneud hyn yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy Dduw. 6 Os digwydd iti ar dy ffordd daro ar nyth aderyn a chywion neu wyau ynddi, prun ai mewn llwyn neu ar y llawr, a'r i�r yn gori ar y cywion neu'r wyau, nid wyt i gymryd yr i�r a'r rhai bach. 7 Gad i'r i�r fynd, a chymer y rhai bach i ti dy hun, er mwyn iddi fod yn dda iti, ac iti estyn dy ddyddiau. 8 Pan fyddi'n adeiladu tu375? newydd, gwna ganllaw o amgylch y to, rhag i'th du375? fod yn achos marwolaeth, petai rhywun yn syrthio oddi arno. 9 Nid wyt i hau hadau gwahanol yn dy winllan, rhag i'r cwbl gael ei fforffedu i'r cysegr, sef yr had a heuaist a chynnyrch y winllan hefyd. 10 Nid wyt i aredig gydag ych ac asyn ynghyd. 11 Nid wyt i wisgo dilledyn o frethyn cymysg o wl�n a llin. 12 Gwna iti blethau ar bedair congl y clogyn y byddi'n ei wisgo. 13 Bwriwch fod dyn yn cymryd gwraig, ac yna wedi iddo gael cyfathrach � hi, yn ei chas�u, 14 yn rhoi gair drwg iddi, ac yn pardduo'i chymeriad a dweud, "Priodais y ddynes hon, ond pan euthum ati ni chefais brawf o'i gwyryfdod." 15 Os felly, fe gymer tad a mam yr eneth brawf gwyryfdod yr eneth a'i ddangos i'r henuriaid ym mhorth y dref; 16 ac fe ddywed tad yr eneth wrth yr henuriaid, "Rhoddais fy merch i'r dyn hwn yn wraig, ond y mae'n ei chas�u, 17 a dyma ef yn rhoi gair drwg iddi ac yn dweud na chafodd brawf o'i gwyryfdod. Dyma brawf o wyryfdod fy merch." Yna lledant y dilledyn gerbron henuriaid y dref, 18 a byddant hwythau yn cymryd y dyn ac yn ei gosbi. 19 Rhoddant arno ddirwy o gan sicl arian, i'w rhoi i dad yr eneth, am iddo bardduo cymeriad gwyryf o Israel; a bydd hi'n wraig iddo, ac ni all ei hysgaru tra bydd byw. 20 Ond os yw'r cyhuddiad yn wir, ac os na chafwyd prawf o wyryfdod yr eneth, 21 yna d�nt � hi i ddrws tu375? ei thad; ac y mae gwu375?r ei thref i'w llabyddio'n gelain � cherrig, am iddi weithredu'n ysgeler yn Israel, trwy buteinio yn nhu375? ei thad. Felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg. 22 Os ceir dyn yn gorwedd gyda gwraig briod, y mae'r ddau i farw, sef y dyn oedd yn gorwedd gyda'r wraig yn ogystal �'r wraig. Felly y byddi'n dileu'r drwg allan o Israel. 23 Os bydd dyn yn taro ar eneth sy'n wyryf ac wedi ei dywedd�o i u373?r, ac yn gorwedd gyda hi o fewn y dref, 24 yna dewch �'r ddau allan at borth y dref a'u llabyddio'n gelain � cherrig � yr eneth am na waeddodd, a hithau yn y dref, a'r dyn am iddo dreisio gwraig ei gymydog. Felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg. 25 Ond os bydd y dyn wedi taro ar yr eneth a ddywedd�wyd allan yn y wlad, a'i threchu a gorwedd gyda hi, yna y dyn a orweddodd gyda hi yn unig sydd i farw. 26 Nid wyt i wneud dim i'r eneth, oherwydd ni wnaeth hi ddim i haeddu marw; y mae'r achos yma yr un fath � rhywun yn codi yn erbyn un arall ac yn ei lofruddio. 27 Allan yn y wlad y trawodd y dyn arni, ac er i'r eneth a ddywedd�wyd weiddi, nid oedd neb i'w harbed. 28 Os bydd dyn yn taro ar wyryf nad yw wedi ei dywedd�o, ac yn gafael ynddi a gorwedd gyda hi, a hwythau'n cael eu dal, 29 yna y mae'r dyn a orweddodd gyda hi i roi hanner can sicl o arian i dad yr eneth, a rhaid iddo'i phriodi am iddo ei threisio; ni all ei hysgaru tra bydd byw. 30 Nid yw dyn i briodi gwraig i'w dad, rhag iddo ddwyn gwarth ar ei dad.