Welsh

Deuteronomy

23

1 Nid yw neb sydd wedi ei sbaddu neu wedi colli ei gala i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD. 2 Nid yw bastardyn, na neb o'i ddisgynyddion hyd y ddegfed gen-hedlaeth, i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD. 3 Nid yw Ammoniad na Moabiad, na neb o'u disgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD, 4 am na ddaethant i'th gyfarfod � bara a du373?r ar dy ffordd o'r Aifft, ond yn hytrach llogi Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia i'th felltithio. 5 Er hynny, ni fynnai'r ARGLWYDD dy Dduw wrando ar Balaam, ond troes ef y felltith yn fendith iti am ei fod yn dy garu. 6 Nid wyt i geisio lles na budd iddynt holl ddyddiau d'oes. 7 Nid wyt i ffieiddio Edomiad, oherwydd y mae'n frawd iti; nid wyt i ffieiddio Eifftiwr, oherwydd buost yn alltud yn ei wlad. 8 Caiff eu disgynyddion ar �l y drydedd genhedlaeth fynychu cynulleidfa'r ARGLWYDD. 9 Os byddi'n mynd allan i wersyllu yn erbyn dy elyn, ymgadw rhag pob aflendid. 10 Os bydd rhywun yn aflan oherwydd bwrw had yn ystod y nos, yna y mae i adael y gwersyll a pheidio � dod yn �l. 11 Gyda'r hwyr y mae i ymolchi � du373?r, a chaiff ddychwelyd i'r gwersyll wedi i'r haul fachlud. 12 Noda le y tu allan i'r gwersyll ar gyfer mynd o'r neilltu; 13 a bydd gennyt raw ymhlith dy offer, a phan fyddi'n mynd o'r neilltu, cloddia dwll a chladdu dy garthion ynddo. 14 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn rhodio trwy ganol y gwersyll i'th waredu a darostwng d'elynion o'th flaen; felly rhaid i'th wersyll fod yn sanctaidd, rhag iddo ef weld dim anweddus yno, a throi i ffwrdd oddi wrthyt. 15 Paid � dychwelyd caethwas a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr. 16 Gad iddo fyw yn eich mysg yn y fan a fynno, ym mha dref bynnag y mae'n ei dewis; paid �'i orthrymu. 17 Nid yw neb o ferched Israel i fod yn butain y cysegr, na neb o feibion Israel yn buteiniwr y cysegr. 18 Nid yw putain na gwrywgydiwr i ddod �'u t�l i du375?'r ARGLWYDD dy Dduw i dalu unrhyw adduned, oherwydd y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. 19 Nid wyt i godi llog ar un o'th dylwyth am fenthyg arian, na bwyd, na dim arall a roir ar fenthyg. 20 Cei godi llog ar yr estron, ond nid ar un o'th dylwyth, er mwyn iti dderbyn bendith gan yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth y byddi'n ei wneud yn y wlad yr wyt ar ddod i'w meddiannu. 21 Os byddi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD dy Dduw, paid ag oedi cyn ei chyflawni; bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn sicr o'i hawlio gennyt, a byddi dithau yn euog o bechod. 22 Pe bait heb addunedu, ni fyddet yn euog. 23 Gwylia beth a ddaw allan o'th enau, a chyflawna d'addewid i'r ARGLWYDD dy Dduw, gan mai o'th wirfodd yr addewaist. 24 Os byddi'n mynd trwy winllan dy gymydog, cei fwyta dy wala o'r grawnwin, ond paid � rhoi dim yn dy fasged. 25 Os byddi'n mynd trwy gae u375?d dy gymydog, cei dynnu tywysennau �'th law, ond paid � gosod cryman yn u375?d dy gymydog.