Welsh

Deuteronomy

24

1 Os bydd dyn wedi cymryd gwraig a'i phriodi, a hithau wedyn heb fod yn ei fodloni am iddo gael rhywbeth anweddus ynddi, yna y mae i ysgrifennu llythyr ysgar iddi, a'i roi yn ei llaw a'i hanfon o'i du375?. 2 Wedi iddi adael ei du375?, os daw yn wraig i rywun arall, 3 a hwnnw wedyn yn ei chas�u ac yn ysgrifennu llythyr ysgar iddi, a'i roi yn ei llaw a'i hanfon o'i du375?, neu os bydd yr ail u373?r yn marw, 4 yna ni all ei phriod cyntaf, a oedd wedi ei hysgaru, ei hailbriodi wedi iddi gael ei halogi. Byddai hynny'n beth ffiaidd gerbron yr ARGLWYDD, ac nid ydych i ddwyn pechod ar y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n feddiant ichwi. 5 Os bydd dyn newydd briodi, nid yw i fynd i ffwrdd gyda'r fyddin nac ar ddyletswyddau eraill; y mae'n rhydd i aros gartref am flwyddyn gron a bod yn llawen gyda'i wraig. 6 Nid yw neb i gymryd melin na maen uchaf melin yn wystl, oherwydd byddai'n cymryd bywoliaeth rhywun yn wystl. 7 Os ceir bod rhywun wedi herwgipio un o'i gydwladwyr yn Israel, a'i amddifadu o'i hawliau trwy ei werthu, yna y mae'r herwgipiwr hwnnw i farw; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg. 8 Mewn achos o wahanglwyf, gofalwch wneud popeth yn �l fel y bydd yr offeiriaid o Lefiaid yn eich cyfarwyddo; gofalwch wneud yn union fel y gorchmynnais i iddynt. 9 Cofiwch yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam wrth ichwi ddod o'r Aifft. 10 Os byddi'n rhoi benthyg unrhyw beth i'th gymydog, paid � mynd i mewn i'w du375? i gymryd ei wystl. 11 Saf y tu allan, a gad i'r sawl yr wyt yn rhoi benthyg iddo ddod �'i wystl allan atat. 12 Os yw'n dlawd, paid � chysgu yn y dilledyn a roddodd yn wystl; 13 gofala ei roi'n �l iddo cyn machlud haul, er mwyn iddo gysgu yn ei fantell a'th fendithio. Cyfrifir hyn iti'n gyfiawnder gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw. 14 Paid � gorthrymu gwas cyflog anghenus a thlawd, boed gydwladwr neu ddieithryn yn un o drefi dy wlad. 15 Rho ei gyflog iddo bob dydd cyn i'r haul fachlud, rhag iddo achwyn arnat wrth yr ARGLWYDD ac i ti dy gael yn euog o bechod, oherwydd y mae'n anghenus ac yn dibynnu arno. 16 Nid yw rhieni i'w rhoi i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir rhywun i farwolaeth. 17 Nid wyt i wyro barn yn achos dieithryn nac amddifad, nac i gymryd dilledyn y weddw fel gwystl. 18 Cofia mai caethwas fuost yn yr Aifft, ac i'r ARGLWYDD dy Dduw dy waredu oddi yno; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti wneud hyn. 19 Pan fyddi wedi medi dy gynhaeaf ond wedi anghofio ysgub yn y maes, paid � throi'n �l i'w chyrchu; gad hi yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, er mwyn i'r ARGLWYDD dy Dduw dy fendithio yn holl waith dy ddwylo. 20 Pan fyddi'n curo'r ffrwyth oddi ar dy olewydden, paid � lloffa wedyn; gad y gweddill yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw. 21 Pan fyddi'n casglu ffrwyth dy winllan, paid � lloffa wedyn; gad y gweddill yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw. 22 Cofia mai caethwas fuost yng ngwlad yr Aifft; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti wneud hyn.