1 Rhoddodd Moses a henuriaid Israel orchymyn i'r bobl a dweud: "Cadwch y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi heddiw. 2 Y diwrnod y byddwch yn croesi'r Iorddonen ac yn dod i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, codwch feini mawrion a'u plastro � chalch. 3 Yna ysgrifennwch arnynt holl eiriau'r gyfraith hon, pan fyddwch wedi croesi drosodd i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l, fel yr addawodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid wrthych. 4 Wedi ichwi groesi'r Iorddonen, yr ydych i godi'r meini hyn ym Mynydd Ebal a'u plastro � chalch, fel y gorchmynnais ichwi heddiw. 5 Ac yno byddwch yn adeiladu allor i'r ARGLWYDD eich Duw, allor o gerrig heb eu trin ag arf haearn. 6 � cherrig cyfain y byddwch yn adeiladu'r allor i'r ARGLWYDD eich Duw, i offrymu arni boethoffrymau. 7 Yno hefyd yr aberthwch heddoffrymau a'u bwyta'n llawen gerbron yr ARGLWYDD eich Duw. 8 Ysgrifennwch yn hollol eglur ar y meini holl eiriau'r gyfraith hon." 9 Dywedodd Moses a'r offeiriaid o Lefiaid wrth Israel gyfan, "Gwrando a chlyw, O Israel: y dydd hwn daethost yn bobl i'r ARGLWYDD dy Dduw; 10 yr wyt i wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw a chadw ei orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw." 11 Rhoddodd Moses orchymyn i'r bobl y dydd hwnnw a dweud: 12 "Pan fyddwch wedi croesi'r Iorddonen, dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Garisim i fendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin. 13 A dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Ebal i felltithio: Reuben, Gad, Aser, Sabulon, Dan a Nafftali." 14 Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi wrth holl bobl Israel � llais uchel: 15 "Melltith ar y sawl a wna ddelw gerfiedig neu eilun tawdd, a gosod i fyny'n ddirgel bethau o waith dwylo crefftwr, pethau sy'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD." Y mae'r holl bobl i ateb, "Amen." 16 "Melltith ar y sawl sy'n dirmygu ei dad neu ei fam." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 17 "Melltith ar y sawl sy'n symud terfyn ei gymydog." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 18 "Melltith ar y sawl sy'n camarwain y dall." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 19 "Melltith ar y sawl sy'n gwyro barn yn erbyn estron, amddifad neu weddw." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 20 "Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda gwraig i'w dad, oherwydd y mae'n dwyn gwarth ar ei dad." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 21 "Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gydag unrhyw anifail." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 22 "Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i chwaer, prun ai merch i'w dad neu ferch i'w fam yw hi." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 23 "Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i fam-yng-nghyfraith." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 24 "Melltith ar y sawl sy'n ymosod ar rywun arall yn y dirgel." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 25 "Melltith ar y sawl sy'n derbyn t�l am ladd dyn dieuog." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen." 26 "Melltith ar unrhyw un nad yw'n ategu holl eiriau'r gyfraith hon trwy eu cadw." Y mae'r holl bobl i ddweud, "Amen."