1 Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd. 2 Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw. 3 Byddi'n derbyn bendith yn y dref ac yn y maes. 4 Bydd bendith ar ffrwyth dy gorff, ar gnwd dy dir a'th fuches, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid. 5 Bydd bendith ar dy gawell a'th badell dylino. 6 Bydd bendith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan. 7 Bydd yr ARGLWYDD yn peri i'th elynion sy'n codi yn dy erbyn gael eu dryllio o'th flaen; byddant yn dod yn dy erbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagot ar hyd saith. 8 Bydd yr ARGLWYDD yn gorchymyn bendith ar dy ysguboriau ac ar bopeth a wnei; bydd yn dy fendithio yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti. 9 Bydd yr ARGLWYDD yn dy sefydlu'n bobl sanctaidd iddo, fel yr addawodd iti, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw a rhodio yn ei ffyrdd. 10 Fe w�l holl bobloedd y ddaear mai ar enw'r ARGLWYDD y gelwir di; a bydd dy ofn arnynt. 11 Bydd yr ARGLWYDD yn dy lwyddo'n ardderchog yn ffrwyth dy gorff, cynnydd dy fuches, a chnwd dy dir yn y wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'th hynafiaid ei rhoi iti. 12 Bydd yr ARGLWYDD yn agor y nefoedd, ystordy ei ddaioni, i roi glaw i'th dir yn ei bryd, ac i fendithio holl waith dy ddwylo; byddi'n rhoi benthyg i lawer o genhedloedd, ond heb angen benthyca dy hun. 13 Bydd yr ARGLWYDD yn dy wneud yn ben ac nid yn gynffon, yn uchaf bob amser ac nid yn isaf, dim ond iti wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw i'w cadw a'u gwneud. 14 Paid � gwyro i'r dde na'r chwith oddi wrth yr un o'r pethau yr wyf fi'n eu gorchymyn iti heddiw, na dilyn duwiau estron i'w haddoli. 15 Ac os na fyddi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i ofalu cyflawni ei holl orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw, yna fe ddaw i'th ran yr holl felltithion hyn, ac fe'th amgylchant: 16 Melltith arnat yn y dref ac yn y maes. 17 Melltith ar dy gawell a'th badell dylino. 18 Melltith ar ffrwyth dy gorff a chnwd dy dir, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid. 19 Melltith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan. 20 Bydd yr ARGLWYDD yn anfon arnat felltithion, dryswch, a cherydd ym mha beth bynnag yr wyt yn ei wneud, nes dy ddinistrio a'th ddifetha'n gyflym oherwydd drygioni dy waith yn ei wrthod. 21 Bydd yr ARGLWYDD yn peri i haint lynu wrthyt nes dy ddifa oddi ar y tir yr wyt yn mynd iddo i'w feddiannu. 22 Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro � darfodedigaeth, twymyn, llid a chryd; � sychder hefyd a deifiant a malltod. Bydd y rhain yn dy ddilyn nes dy ddifodi. 23 Bydd yr wybren uwch dy ben yn bres, a'r ddaear oddi tanat yn haearn. 24 Bydd yr ARGLWYDD yn troi glaw dy dir yn llwch a lludw, a hynny'n disgyn arnat o'r awyr nes dy ddifa. 25 Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddryllio o flaen d'elynion; byddi'n mynd allan yn eu herbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagddynt ar hyd saith, a bydd hyn yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear. 26 Bydd dy gelain yn bwydo holl adar yr awyr a bwystfilod y ddaear, heb neb i'w tarfu. 27 Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro � chornwyd yr Aifft a chornwydydd gwaedlyd, � chrach ac ysfa na fedri gael iach�d ohonynt. 28 Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro � gwallgofrwydd, dallineb a dryswch meddwl; 29 a byddi'n ymbalfalu ar hanner dydd, fel y bydd y dall yn ymbalfalu mewn tywyllwch, heb lwyddo i gael dy ffordd. Cei dy orthrymu a'th ysbeilio'n feunyddiol heb neb i'th achub. 30 Er iti ddywedd�o � merch, dyn arall fydd yn ei chymryd; er iti godi tu375?, ni fyddi'n byw ynddo; ac er iti blannu gwinllan, ni chei'r ffrwyth ohoni. 31 Lleddir dy ych yn dy olwg, ond ni fyddi'n cael bwyta dim ohono; caiff dy asyn ei ladrata yn dy u373?ydd, ond nis cei yn �l; rhoddir dy ddefaid i'th elynion, ac ni fydd neb i'w hadfer iti. 32 Rhoddir dy feibion a'th ferched i bobl arall, a thithau'n gweld ac yn dihoeni o'u plegid ar hyd y dydd, yn ddiymadferth. 33 Bwyteir cynnyrch dy dir a'th holl lafur gan bobl nad wyt yn eu hadnabod, a chei dy orthrymu a'th ysbeilio'n feunyddiol, 34 nes bod yr hyn a weli �'th lygaid yn dy yrru'n wallgof. 35 Bydd yr ARGLWYDD yn dy daro � chornwydydd poenus, na ellir eu gwella, ar dy liniau a'th goesau, ac o wadn dy droed hyd dy gorun. 36 Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon di, a'r brenin y byddi'n ei osod arnat, at genedl na fu i ti na'th gyndadau ei hadnabod; ac yno byddi'n gwasanaethu duwiau estron o bren a charreg. 37 Byddi'n achos syndod, yn ddihareb ac yn gyff gwawd ymysg yr holl bobloedd y bydd yr ARGLWYDD yn dy ddanfon atynt. 38 Er iti fynd � digonedd o had i'r maes, ychydig a fedi, am i locustiaid ei ysu. 39 Byddi'n plannu gwinllannoedd ac yn eu trin, ond ni chei yfed y gwin na chasglu'r grawnwin, am i bryfetach eu bwyta. 40 Bydd gennyt olewydd trwy dy dir i gyd, ond ni fyddi'n dy iro dy hun �'r olew, oherwydd bydd dy olewydd yn colli eu ffrwyth. 41 Byddi'n cenhedlu meibion a merched, ond ni chei eu cadw, oherwydd fe'u cludir i gaethiwed. 42 Bydd locustiaid yn difa pob coeden fydd gennyt a chynnyrch dy dir. 43 Bydd y dieithryn yn eich mysg yn dal i godi'n uwch ac yn uwch, a thithau'n disgyn yn is ac yn is. 44 Ef fydd yn rhoi benthyg i ti, nid ti iddo ef; ef fydd y pen, a thithau'n gynffon. 45 Daw'r holl felltithion hyn arnat, a'th ddilyn a'th amgylchu nes iti gael dy ddinistrio, am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw na chadw ei orchmynion a'i ddeddfau fel y gorchmynnodd iti. 46 Byddant yn arwydd ac yn argoel i ti ac i'th ddisgynyddion am byth, 47 gan na wasanaethaist yr ARGLWYDD dy Dduw mewn llawenydd a llonder calon am iddo roi iti ddigonedd o bopeth. 48 Eithr mewn newyn a syched, noethni a dirfawr angen, byddi'n gwasanaethu'r gelynion y mae'r ARGLWYDD yn eu hanfon yn dy erbyn. Bydd yn gosod iau haearn ar dy war nes iddo dy ddinistrio. 49 Bydd yr ARGLWYDD yn codi cenedl o bell, o eithaf y ddaear, yn dy erbyn; fel eryr fe ddaw ar dy warthaf genedl na fyddi'n deall ei hiaith, 50 cenedl sarrug ei gwedd, heb barch i'r hen na thiriondeb at yr ifanc. 51 Bydd yn bwyta cynnyrch dy fuches a'th dir, nes dy ddinistrio; ni fydd yn gadael ar �l iti nac u375?d na gwin nac olew, na chynnydd dy wartheg nac epil dy ddefaid, nes dy ddifodi. 52 Bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy dy holl wlad, nes y bydd pob un o'th furiau uchel, yr wyt yn ymddiried ynddynt i'th amddiffyn, yn cwympo; ie, bydd yn gwarchae ar bob dinas o'th eiddo trwy'r holl wlad a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti. 53 Oherwydd y cyni a achosir iti gan warchae dy elyn, byddi'n bwyta ffrwyth dy gorff dy hun, cnawd dy feibion a'th ferched, a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti. 54 Bydd y dyn mwyaf tyner a theimladwy yn eich plith yn gwarafun rhoi i'w frawd, nac i wraig ei fynwes nac i weddill ei blant sydd ar �l, 55 ddim o gig ei blant y mae'n ei fwyta, rhag iddo fod heb ddim yn y cyni a achosir ym mhob dinas gan warchae dy elyn. 56 Bydd y ddynes fwyaf tyner a mwyaf teimladwy yn eich plith, un mor deimladwy a thyner fel na fentrodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, yn gwarafun rhoi i u373?r ei mynwes, nac i'w mab na'i merch, 57 ran o'r brych a ddisgyn o'i chroth, na'r baban a enir iddi; ond bydd hi ei hun yn ei fwyta'n ddirgel, am nad oes dim i'w gael yn y cyni a achosir yn dy holl ddinasoedd gan warchae dy elyn. 58 Os na fyddi'n gofalu cyflawni holl ofynion y gyfraith hon, a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn, a pharchu'r enw gogoneddus ac arswydus hwn, sef enw yr ARGLWYDD dy Dduw, 59 yna bydd yr ARGLWYDD yn trymhau ei bl�u anhygoel arnat ti ac ar dy epil, pl�u trymion a chyson, a heintiau difrifol a pharhaus. 60 Bydd yn dwyn arnat eto holl glefydau'r Aifft a fu'n peri braw iti, a byddant yn glynu wrthyt. 61 Bydd yr ARGLWYDD yn pentyrru arnat hefyd yr holl afiechydon a phl�u nad ydynt wedi eu cynnwys yn llyfr y gyfraith hon, nes dy ddinistrio. 62 Fe'th adewir di, a fu mor niferus � s�r y nefoedd, yn ychydig o bobl, am iti beidio � gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw. 63 Fel y bu'r ARGLWYDD yn llawenhau o'th blegid wrth iddo wneud daioni iti a'th amlhau, bydd yn llawenhau o'th blegid yr un modd wrth iddo dy ddifodi a'th ddinistrio. Bydd yn dy ddiwreiddio o'r tir hwn y daethost i'w feddiannu. 64 Bydd yr ARGLWYDD yn dy wasgaru ymysg yr holl bobloedd, o un cwr o'r byd i'r llall; ac yno byddi'n gwasanaethu duwiau estron, duwiau o bren a charreg, nad oeddit ti na'th hynafiaid yn eu hadnabod. 65 Ni chei lonydd na gorffwysfa i wadn dy droed ymhlith y cenhedloedd hyn; bydd yr ARGLWYDD yn rhoi iti yno galon ofnus, llygaid yn pallu ac ysbryd llesg. 66 Bydd dy fywyd fel pe'n hongian o'th flaen, a bydd arnat ofn nos a dydd, heb ddim sicrwydd gennyt am dy einioes. 67 O achos yr ofn yn dy galon a'r hyn a w�l dy lygaid, byddi'n dweud yn y bore, "O na fyddai'n hwyr!" ac yn yr hwyr, "O na fyddai'n fore!" 68 Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddychwelyd i'r Aifft mewn tristwch, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt na fyddit yn ei gweld rhagor, ac yno byddwch yn eich cynnig eich hunain ar werth i'ch gelynion fel caethion a chaethesau, heb neb yn prynu.