1 Ar �l hyn dyrchafodd y Brenin Ahasferus Haman fab Hammedatha yr Agagiad, a rhoi iddo le blaenllaw, gan ei osod yn uwch na'r holl dywysogion oedd gydag ef. 2 Ac yr oedd pob un o'r gweision ym mhorth llys y brenin yn ymgrymu ac yn ymostwng iddo, yn �l gorchymyn y brenin. Ond nid oedd Mordecai yn ymostwng nac yn ymgrymu iddo. 3 Dywedodd gweision y brenin a oedd yn y porth wrth Mordecai. "Pam yr wyt yn torri gorchymyn y brenin?" 4 Ond er eu bod yn gofyn hyn iddo'n feunyddiol, ni wrandawai arnynt. Felly dywedasant wrth Haman, er mwyn gweld a fyddai Mordecai'n dal ei dir, oherwydd yr oedd wedi dweud wrthynt ei fod yn Iddew. 5 Pan welodd Haman nad oedd Mordecai am ymostwng nac ymgrymu iddo, gwylltiodd yn enbyd. 6 Wedi clywed i ba genedl yr oedd Mordecai yn perthyn, nid oedd yn fodlon ymosod ar Mordecai yn unig, ond yr oedd yn awyddus i ddifa cenedl Mordecai, sef yr holl Iddewon yn nheyrnas Ahasferus. 7 Yn neuddegfed flwyddyn y Brenin Ahasferus, yn y mis cyntaf, sef Nisan, bwriasant Pwr (hynny yw, coelbren) o flaen Haman i ddewis dydd a mis, ac fe syrthiodd y coelbren ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar. 8 Dywedodd Haman wrth y Brenin Ahasferus, "Y mae yna genedl, wedi ei chwalu a'i gwasgaru ymhlith y bobloedd yn holl daleithiau dy deyrnas, sy'n ei chadw ei hun ar wah�n. Y mae eu cyfreithiau'n wahanol i rai pawb arall, ac nid ydynt yn cadw cyfreithiau'r brenin; nid yw er lles y brenin eu goddef. 9 Os cydsynia'r brenin i orchymyn eu difa, yna fe dalaf fi ddeng mil o dalentau arian i'r trysordy brenhinol ar gyfer y rhai sy'n gwneud hyn." 10 Yna tynnodd y brenin ei fodrwy oddi ar ei law a'i rhoi i Haman fab Hammedatha yr Agagiad, gelyn yr Iddewon, 11 a dweud wrtho, "Cadw'r arian, a gwna fel y mynni �'r bobl." 12 Yna ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf, galwyd ar ysgrifenyddion y brenin, ac ar orchymyn Haman ysgrifennwyd at bendefigion y brenin, rheolwyr pob talaith a thywysogion pob cenedl, i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun. Yr oedd y wu375?s wedi ei hysgrifennu yn enw'r Brenin Ahasferus ac wedi ei selio �'r fodrwy frenhinol. 13 Yna anfonwyd negeswyr gyda llythyrau i holl daleithiau'r brenin yn gorchymyn dinistrio, lladd a difa pob Iddew, yn llanc a hynafgwr, plant a gwragedd, ac ysbeilio'u heiddo, ar yr un diwrnod, sef y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hynny yw, Adar. 14 Yr oedd copi o'r wu375?s i'w anfon yn gyfraith i bob talaith, a'i ddangos i'r holl bobl er mwyn iddynt fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw. 15 Aeth y negeswyr allan ar frys yn �l gorchymyn y brenin, a chyhoeddwyd y gorchymyn yn Susan y brifddinas. Yna eisteddodd y brenin a Haman i yfed; ond yr oedd dinas Susan yn drist.