1 Pan glywodd Mordecai am bopeth a ddigwyddodd, rhwygodd ei ddillad a gwisgo sachliain a lludw, a mynd allan i ganol y ddinas a gweiddi'n groch a chwerw. 2 Daeth i ymyl porth y brenin, oherwydd ni ch�i neb oedd yn gwisgo sachliain fynd i mewn i'r porth. 3 Ym mhob talaith lle y cyrhaeddodd gair a gorchymyn y brenin, yr oedd galar mawr ymysg yr Iddewon, ac yr oeddent yn ymprydio, yn wylo ac yn llefain; a gorweddodd llawer ohonynt mewn sachliain a lludw. 4 Pan ddaeth morynion ac eunuchiaid y Frenhines Esther a dweud wrthi, yr oedd yn ofidus iawn. Anfonodd ddillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain oedd amdano, ond gwrthododd ef hwy. 5 Yna galwodd Esther ar Hathach, un o eunuchiaid y brenin a ddewiswyd i weini arni, a'i orchymyn i fynd at Mordecai, i gael gwybod beth oedd ystyr hyn a pham y digwyddodd. 6 Aeth Hathach allan at Mordecai i sgw�r y ddinas o flaen porth y brenin, 7 a dywedodd Mordecai wrtho am y cwbl a ddigwyddodd iddo, ac am y swm o arian yr addawodd Haman ei dalu i drysorfa'r brenin er mwyn difa'r Iddewon. 8 Rhoddodd iddo hefyd gopi o'r wu375?s a gyhoeddwyd yn Susan, yn gorchymyn eu dinistrio, er mwyn iddo yntau ei dangos a'i hegluro i Esther, a dweud wrthi am fynd at y brenin i ymbil ag ef ac erfyn arno dros ei phobl. 9 Aeth Hathach a dweud wrth Esther yr hyn a ddywedodd Mordecai, 10 a rhoddodd hithau iddo'r neges hon i Mordecai, 11 "Y mae holl weision y brenin a phobl ei daleithiau yn gwybod nad oes ond un ddedfryd yn aros unrhyw u373?r neu wraig sy'n mynd i'r cyntedd mewnol at y brenin heb wahoddiad, sef marwolaeth; ni chaiff fyw oni bai i'r brenin estyn ei deyrnwialen aur iddo. Nid wyf fi wedi fy ngalw at y brenin ers deg diwrnod ar hugain bellach." 12 Pan glywodd Mordecai neges Esther, 13 dywedodd wrthynt am ei hateb fel hyn, "Paid � meddwl y cei di yn unig o'r holl Iddewon dy arbed, am dy fod yn byw yn nhu375?'r brenin. 14 Os byddi'n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i'r Iddewon o le arall, ond byddi di a thu375? dy dad yn trengi. Pwy a u373?yr nad ar gyfer y fath amser � hwn y daethost i'r frenhiniaeth?" 15 Dywedodd Esther wrthynt am roi'r ateb hwn i Mordecai: 16 "Dos i gasglu ynghyd yr holl Iddewon sy'n byw yn Susan, ac ymprydiwch drosof; peidiwch � bwyta nac yfed, ddydd na nos, am dridiau, ac fe wnaf finnau a'm morynion yr un fath. Yna af at y brenin, er fy mod yn torri'r gyfraith; ac os trengaf, mi drengaf." 17 Aeth Mordecai ymaith a gwneud popeth a orchmynnodd Esther iddo.