Welsh

Exodus

2

1 Priododd gu373?r o dylwyth Lefi ag un o ferched Lefi. 2 Beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a phan welodd ei fod yn dlws, fe'i cuddiodd am dri mis. 3 Ond gan na allai ei guddio'n hwy, cymerodd gawell wedi ei wneud o lafrwyn a'i ddwbio � chlai a phyg; rhoddodd y plentyn ynddo a'i osod ymysg yr hesg ar lan y Neil. 4 Yr oedd chwaer y plentyn yn sefyll nid nepell oddi wrtho er mwyn cael gwybod beth a ddigwyddai iddo. 5 Daeth merch Pharo i ymdrochi yn yr afon tra oedd ei morynion yn cerdded ar y lan, a phan welodd y cawell yng nghanol yr hesg, anfonodd un ohonynt i'w n�l. 6 Wedi iddi ei agor, fe welodd y plentyn, ac yr oedd y bachgen yn wylo. Tosturiodd hithau wrtho a dweud, "Un o blant yr Hebreaid yw hwn." 7 Yna gofynnodd chwaer y plentyn i ferch Pharo, "A gaf fi fynd i chwilio am famaeth o blith gwragedd yr Hebreaid, iddi fagu'r plentyn iti?" 8 Atebodd merch Pharo, "Dos." Felly aeth y ferch ymaith a galw mam y plentyn. 9 Dywedodd merch Pharo wrth honno, "Cymer y plentyn hwn a'i fagu imi, ac fe roddaf finnau d�l iti." Felly cymerodd y wraig y plentyn a'i fagu. 10 Wedi i'r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn �l at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a'i enwi'n Moses, oherwydd iddi ddweud, "Tynnais ef allan o'r du373?r." 11 Un diwrnod, wedi i Moses dyfu i fyny, aeth allan at ei bobl ac edrych ar eu beichiau. Gwelodd Eifftiwr yn taro Hebr�wr, un o'i frodyr, 12 ac wedi edrych o'i amgylch a gweld nad oedd neb yno, lladdodd Moses yr Eifftiwr a'i guddio yn y tywod. 13 Pan aeth allan drannoeth a gweld dau Hebr�wr yn ymladd �'i gilydd, gofynnodd i'r un oedd ar fai, "Pam yr wyt yn taro dy gyfaill?" 14 Atebodd yntau, "Pwy a'th benododd di yn bennaeth ac yn farnwr arnom? A wyt am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr?" Daeth ofn ar Moses o sylweddoli fod y peth yn hysbys. 15 Pan glywodd Pharo am hyn, ceisiodd ladd Moses, ond ffodd ef oddi wrtho a mynd i fyw i wlad Midian; ac yno eisteddodd i lawr yn ymyl pydew. 16 Yr oedd gan offeiriad Midian saith o ferched, a daethant i godi du373?r er mwyn llenwi'r cafnau a dyfrhau defaid eu tad. 17 Daeth bugeiliaid heibio a'u gyrru oddi yno, ond cododd Moses ar ei draed a'u cynorthwyo i ddyfrhau eu praidd. 18 Pan ddaeth y merched at Reuel eu tad, gofynnodd, "Sut y daethoch yn �l mor fuan heddiw?" 19 Dywedasant hwythau, "Eifftiwr a ddaeth i'n hamddiffyn rhag y bugeiliaid, a chodi du373?r i ddyfrhau'r praidd." 20 Yna gofynnodd yntau iddynt, "Ple mae'r dyn? Pam yr ydych wedi ei adael ar �l? Galwch arno, iddo gael tamaid i'w fwyta." 21 Cytunodd Moses i aros gyda'r gu373?r, a rhoddodd yntau ei ferch Seffora yn wraig iddo. 22 Esgorodd hithau ar fab, a galwodd Moses ef yn Gersom, oherwydd dywedodd, "Dieithryn ydwyf mewn gwlad ddieithr." 23 Yn ystod yr amser maith hwn, bu farw brenin yr Aifft. Ond yr oedd pobl Israel yn dal i riddfan oherwydd eu caethiwed, ac yn gweiddi am gymorth, a daeth eu gwaedd o achos eu caethiwed at Dduw. 24 Clywodd Duw eu cwynfan, a chofiodd ei gyfamod ag Abraham, Isaac a Jacob; 25 edrychodd ar bobl Israel ac ystyriodd eu cyflwr.