Welsh

Exodus

1

1 Dyma enwau meibion Israel a aeth i'r Aifft gyda Jacob, pob un gyda'i deulu: 2 Reuben, Simeon, Lefi a Jwda, 3 Issachar, Sabulon a Benjamin, 4 Dan a Nafftali, Gad ac Aser. 5 Yr oedd gan Jacob ddeg a thrigain o ddisgynyddion; yr oedd Joseff eisoes yn yr Aifft. 6 Yna bu farw Joseff a phob un o'i frodyr a'r holl genhedlaeth honno. 7 Ond yr oedd plant Israel yn ffrwythlon ac yn amlhau'n ddirfawr, ac aethant mor gryf a niferus nes bod y wlad yn llawn ohonynt. 8 Yna daeth brenin newydd i deyrnasu ar yr Aifft, un nad oedd yn gwybod am Joseff. 9 Dywedodd ef wrth ei bobl, "Edrychwch, y mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni. 10 Rhaid inni fod yn ddoeth wrth eu trin, rhag iddynt gynyddu, a phe deuai rhyfel, iddynt ymuno �'n gelynion i ymladd yn ein herbyn, a dianc o'r wlad." 11 Felly, gosodwyd meistri gwaith i oruchwylio'r bobl ac i'w llethu � beichiau trymion. Hwy fu'n adeiladu Pithom a Rameses, dinasoedd ar gyfer ystordai Pharo. 12 Ond po fwyaf y caent eu gorthrymu, mwyaf yn y byd yr oeddent yn amlhau ac yn cynyddu; a daeth yr Eifftiaid i'w hofni. 13 Am hynny, gorfodwyd i'r Israeliaid weithio dan ormes, 14 a gwnaeth yr Eifftiaid eu bywyd yn chwerw trwy eu gosod i lafurio'n galed � chlai a phriddfeini, a gwneud pob math o waith yn y meysydd. Yr oedd y cwbl yn cael ei wneud dan ormes. 15 Yna dywedodd brenin yr Aifft wrth Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid, 16 "Pan fyddwch yn gweini ar wragedd yr Hebreaid, sylwch ar y plentyn a enir: os mab fydd, lladdwch ef; os merch, gadewch iddi fyw." 17 Ond yr oedd y bydwragedd yn parchu Duw; ac ni wnaethant yr hyn a orchmynnodd brenin yr Aifft, ond gadawsant i'r bechgyn fyw. 18 Galwodd brenin yr Aifft y bydwragedd ato a gofyn, "Pam y gwnaethoch hyn, a gadael i'r bechgyn fyw?" 19 Dywedasant hwythau wrth Pharo, "Nid yw gwragedd yr Hebreaid yn debyg i wragedd yr Eifftiaid, oherwydd y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn i'r fydwraig gyrraedd." 20 Am hynny bu Duw yn dda wrth y bydwragedd; a chynyddodd y bobl a dod yn rymus iawn. 21 Am fod y bydwragedd yn parchu Duw, cawsant hwy eu hunain deuluoedd. 22 Yna rhoddodd Pharo orchymyn i'r holl bobl a dweud, "Taflwch i'r Neil bob mab a enir i'r Hebreaid, ond gadewch i bob merch gael byw."