Welsh

Genesis

50

1 Yna fe'i taflodd Joseff ei hun ar gorff ei dad, ac wylo a'i gusanu. 2 Gorchmynnodd Joseff i'w weision, y meddygon, eneinio ei dad. Bu'r meddygon yn eneinio Israel 3 dros ddeugain diwrnod, sef yr amser angenrheidiol i eneinio, a galarodd yr Eifftiaid amdano am saith deg diwrnod. 4 Pan ddaeth y dyddiau i alaru amdano i ben, dywedodd Joseff wrth deulu Pharo, "Os cefais unrhyw ffafr yn eich golwg, siaradwch drosof wrth Pharo, a dywedwch, 5 'Gwnaeth fy nhad i mi gymryd llw. Dywedodd, "Yr wyf yn marw, ac yr wyf i'm claddu yn y bedd a dorrais i mi fy hun yng ngwlad Canaan." Yn awr gad i mi fynd i fyny i gladdu fy nhad; yna fe ddof yn �l.'" 6 Atebodd Pharo, "Dos i fyny i gladdu dy dad, fel y gwnaeth iti dyngu." 7 Felly aeth Joseff i fyny i gladdu ei dad, a chydag ef aeth holl weision Pharo, henuriaid ei du375?, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, 8 holl du375? Joseff, a'i frodyr, a thu375? ei dad. Dim ond y rhai bychain, a'r defaid a'r gwartheg, a adawsant yng ngwlad Gosen. 9 Aeth i fyny gydag ef gerbydau a marchogion, llu mawr ohonynt. 10 Wedi iddynt gyrraedd llawr dyrnu Atad, sydd y tu draw i'r Iorddonen, gwnaethant yno alarnad uchel a chwerw iawn. Galarnadodd Joseff am ei dad am saith diwrnod. 11 Pan welodd y Canaaneaid, preswylwyr y wlad, y galar ar lawr dyrnu Atad, dywedasant, "Dyma alar mawr gan yr Eifftiaid." Felly enwyd y lle y tu draw i'r Iorddonen yn Abel-misraim. 12 A gwnaeth ei feibion i Jacob fel yr oedd wedi gorchymyn iddynt; 13 oherwydd daeth ei feibion ag ef i wlad Canaan a'i gladdu ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yn yr ogof a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd. 14 Ac wedi iddo gladdu ei dad, dychwelodd Joseff i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb oedd wedi mynd i fyny gydag ef i gladdu ei dad. 15 Wedi marw eu tad, daeth ofn ar frodyr Joseff, a dywedasant, "Efallai y bydd Joseff yn ein cas�u ni, ac yn talu'n �l yr holl ddrwg a wnaethom iddo." 16 A daethant at Joseff, a dweud, "Rhoddodd dy dad orchymyn fel hyn cyn marw, 17 'Dywedwch wrth Joseff, "Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti."' Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad." Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef. 18 Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, "Yr ydym yn weision i ti." 19 Ond dywedodd Joseff wrthynt, "Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw? 20 Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl. 21 Felly peidiwch ag ofni; fe'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach." A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt. 22 Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Bu Joseff fyw am gant a deg o flynyddoedd, 23 a gwelodd blant Effraim hyd y drydedd genhedlaeth. Ar liniau Joseff hefyd y maethwyd plant Machir fab Manasse. 24 Yna dywedodd Joseff wrth ei frodyr, "Yr wyf yn marw; ond y mae Duw yn sicr o ymweld � chwi a'ch dwyn i fyny o'r wlad hon i'r wlad a addawodd trwy lw i Abraham, Isaac a Jacob." 25 A gwnaeth Joseff i feibion Israel dyngu llw. Dywedodd, "Y mae Duw yn sicr o ymweld � chwi; ewch chwithau �'m hesgyrn i fyny oddi yma." 26 Bu Joseff farw yn gant a deg oed, ac wedi iddynt ei eneinio, rhoesant ef mewn arch yn yr Aifft.