1 "Gwna allor o goed acasia ar gyfer llosgi arogldarth. 2 Bydd yn sgw�r, yn gufydd o hyd a chufydd o led a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni. 3 Goreura hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwna ymyl aur o'i hamgylch. 4 Gwna hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor. 5 Gwna'r polion o goed acasia, a goreura hwy. 6 Gosod yr allor o flaen y gorchudd sydd wrth arch y dystiolaeth, ac o flaen y drugareddfa ar yr arch; yno byddaf yn cyfarfod � thi. 7 Bydd Aaron yn llosgi arogldarth peraidd arni bob bore wrth baratoi'r lampau, 8 ac eto wrth oleuo'r lampau gyda'r hwyr; bydd hwn yn arogldarth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD dros y cenedlaethau. 9 Peidiwch ag offrymu arni arogldarth halogedig, na phoethoffrwm, na bwydoffrwm; a pheidiwch � thywallt diodoffrwm arni. 10 Bydd Aaron yn gwneud cymod ar ei chyrn unwaith y flwyddyn dros y cenedlaethau, a bydd yn ei wneud � gwaed yr aberth dros bechod a offrymir er cymod; y mae'n gysegredig iawn i'r ARGLWYDD." 11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 12 "Pan fyddwch yn gwneud cyfrifiad o bobl Israel, y mae pob un i roi iawn am ei fywyd i'r ARGLWYDD, rhag bod pla yn eu plith wrth wneud y cyfrifiad. 13 Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad i roi'n offrwm i'r ARGLWYDD hanner sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera. 14 Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad sy'n ugain oed neu'n hu375?n i roi offrwm i'r ARGLWYDD. 15 Nid yw'r cyfoethog i roi mwy, na'r tlawd i roi llai, na hanner sicl, wrth i chwi roi offrwm i'r ARGLWYDD er cymod dros eich bywyd. 16 Cymer arian y cymod oddi wrth bobl Israel a'i roi at wasanaeth pabell y cyfarfod; bydd yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD, er mwyn i chwi wneud cymod dros eich bywyd." 17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 18 "Gwna noe bres, � throed pres iddi, i ymolchi; a gosod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi du373?r ynddi 19 i Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed. 20 Pan fyddant yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, neu'n agos�u at yr allor i wasanaethu neu i losgi offrwm mewn t�n i'r ARGLWYDD, y maent i ymolchi �'r du373?r, rhag iddynt farw. 21 Y maent i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddynt farw; bydd hon yn ddeddf i'w chadw am byth gan Aaron a'i ddisgynyddion dros y cenedlaethau." 22 Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, 23 "Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd, 24 a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden. 25 Gwna ohonynt olew cysegredig ar gyfer eneinio, a chymysga hwy fel y gwna'r peraroglydd; bydd yn olew cysegredig ar gyfer ei eneinio. 26 Eneinia ag ef babell y cyfarfod ac arch y dystiolaeth, 27 y bwrdd a'i holl lestri, y canhwyllbren a'i holl lestri, allor yr arogldarth, 28 allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed. 29 Cysegra hwy, a byddant yn gysegredig iawn; bydd beth bynnag a gyffyrdda � hwy hefyd yn gysegredig. 30 Eneinia Aaron a'i feibion, a chysegra hwy i'm gwasanaethu fel offeiriaid. 31 Yna dywed wrth bobl Israel, 'Bydd hwn yn olew cysegredig i mi dros y cenedlaethau. 32 Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych. 33 Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, neu sy'n ei dywallt ar leygwr.'" 34 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd �'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un, 35 a gwna arogldarth a'i gymysgu fel y gwna'r peraroglydd, a'i dymheru � halen i'w wneud yn bur a chysegredig. 36 Cura beth ohono'n f�n a'i roi o flaen y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle byddaf yn cyfarfod � thi; bydd yn gysegredig iawn gennych. 37 Peidiwch � gwneud arogldarth fel hwn i chwi eich hunain; bydd yn gysegredig i'r ARGLWYDD. 38 Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, i fwynhau ei arogl."