Welsh

Exodus

31

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Edrych, yr wyf wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda, 3 a'i lenwi ag ysbryd Duw, � doethineb a deall, � gwybodaeth a phob rhyw ddawn, 4 er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain i'w gweithio mewn aur, arian a phres, 5 a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith. 6 Penodais hefyd Ahol�ab fab Achisamach, o lwyth Dan, i'w gynorthwyo. Rhoddais ddawn i bob crefftwr i wneud y cyfan a orchmynnais iti: 7 pabell y cyfarfod, arch y dystiolaeth a'r drugareddfa sydd arni, holl ddodrefn y babell, 8 y bwrdd a'i lestri, y canhwyllbren o aur pur a'i holl lestri, allor yr arogldarth, 9 allor y poeth-offrwm a'i holl lestri, y noe a'i throed, 10 y gwisgoedd wedi eu gwn�o'n wisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion, er mwyn iddynt hwythau wasanaethu fel offeiriaid, 11 olew yr eneinio, a'r arogldarth peraidd ar gyfer y cysegr. Y maent i'w gwneud yn union fel y gorchmynnais i ti." 12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 13 "Dywed wrth bobl Israel, 'Cadwch fy Sabothau, oherwydd bydd hyn yn arwydd rhyngof a chwi dros y cenedlaethau, er mwyn i chwi wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sydd yn eich cysegru. 14 Cadwch y Saboth, oherwydd y mae'n gysegredig i chwi; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n ei halogi, a thorrir ymaith o blith ei bobl bwy bynnag sy'n gweithio ar y Saboth. 15 Am chwe diwrnod y gweithir, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth i orffwys, ac yn gysegredig i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd Saboth. 16 Am hynny, bydd pobl Israel yn dathlu'r Saboth ac yn ei gadw dros y cenedlaethau yn gyfamod tra-gwyddol. 17 Y mae'n arwydd tragwyddol rhyngof a phobl Israel mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, ac iddo ymatal a gorffwys ar y seithfed dydd.'" 18 Wedi iddo orffen llefaru wrth Moses ar Fynydd Sinai, rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwy lech y dystiolaeth, llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu � bys Duw.