Welsh

Exodus

34

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Nadd ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, ac fe ysgrifennaf arnynt y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, a dorraist. 2 Bydd barod erbyn y bore, a thyrd i fyny'n gynnar i Fynydd Sinai, ac aros amdanaf yno ar ben y mynydd. 3 Nid oes neb i ddod i fyny gyda thi, nac i ymddangos yn unman ar y mynydd; a phaid � gadael i ddefaid na gwartheg bori ar gyfyl y mynydd hwn." 4 Felly naddodd Moses ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, a chododd yn fore ac aeth i fyny i Fynydd Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo, a chymerodd yn ei law y ddwy lech garreg. 5 Disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, a safodd yno gydag ef, a chyhoeddi ei enw, ARGLWYDD. 6 Aeth yr ARGLWYDD heibio o'i flaen, a chyhoeddi: "Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb; 7 yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb, ac yn cosbi plant, a phlant eu plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, am ddrygioni eu hynafiaid." 8 Brysiodd Moses i ymgrymu tua'r llawr ac addoli. 9 Yna dywedodd, "Os cefais yn awr ffafr yn d'olwg, O ARGLWYDD, boed i ti fynd gyda ni. Er bod y bobl yn wargaled, maddau ein gwrthryfel a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti." 10 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngu373?ydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud � thi beth syfrdanol. 11 Cadw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw, a gyrraf allan o'th flaen yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid. 12 Gwylia rhag iti wneud cyfamod � thrigolion y wlad yr ei iddi, rhag iddynt fod yn fagl iti. 13 Dinistriwch eu hallorau, drylliwch eu colofnau, a thorrwch i lawr eu pyst. 14 Paid ag ymgrymu i dduw arall, oherwydd 15 Eiddigeddus yw enw'r ARGLWYDD, a Duw eiddigeddus ydyw. Paid � gwneud cyfamod � thrigolion y wlad rhag iddynt, wrth buteinio ar �l eu duwiau ac aberthu iddynt, dy wahodd dithau i fwyta o'u haberth, 16 ac i gymryd eu merched i'th feibion; a rhag i'w merched, wrth iddynt buteinio ar �l eu duwiau, wneud i'th feibion buteinio ar �l eu duwiau hwy. 17 "Paid � gwneud i ti ddelwau tawdd. 18 "Cadw u373?yl y Bara Croyw. Yr wyt i fwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr amser penodedig ym mis Abib, fel y gorchmynnais iti, oherwydd ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft. 19 "Eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth, y cyntafanedig o'th holl anifeiliaid gwryw, yn wartheg ac yn ddefaid. 20 Yr wyt i gyfnewid cyntafanedig asyn am oen, ac os na fyddi'n ei gyfnewid, tor ei wddf. Yr wyt i gyfnewid pob cyntafanedig o'th feibion. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw. 21 "Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, boed yn amser aredig neu yn gynhaeaf. 22 "Cadw hefyd u373?yl yr Wythnosau, blaenffrwyth y cynhaeaf gwenith, a gu373?yl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn. 23 Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw, Duw Israel, deirgwaith y flwyddyn. 24 Byddaf finnau'n gyrru cenhedloedd allan o'th flaen ac yn estyn dy derfynau, rhag i neb chwennych dy dir pan fyddi'n ymddangos deirgwaith y flwyddyn o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw. 25 "Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid � chadw aberth gu373?yl y Pasg dros nos hyd y bore. 26 "Yr wyt i ddod �'r gorau o flaenffrwyth dy dir i du375?'r ARGLWYDD dy Dduw. "Paid � berwi myn yn llaeth ei fam." 27 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Ysgrifenna'r geiriau hyn, oherwydd yn �l y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod � thi ac ag Israel." 28 Bu Moses yno gyda'r ARGLWYDD am ddeugain diwrnod a deugain nos, heb fwyta bara nac yfed du373?r, ac ysgrifennodd ar y llechau eiriau'r cyfamod, sef y deg gorchymyn. 29 Pan ddaeth Moses i lawr o Fynydd Sinai gyda dwy lech y dystiolaeth yn ei law, ni wyddai fod croen ei wyneb yn disgleirio ar �l iddo siarad � Duw. 30 Pan welodd Aaron a holl bobl Israel fod croen wyneb Moses yn disgleirio, yr oedd arnynt ofn dod yn agos ato. 31 Ond galwodd Moses arnynt, a throdd Aaron a holl arweinwyr cynulliad Israel ato, a siaradodd Moses � hwy. 32 Yna daeth holl bobl Israel ato, a gorchmynnodd iddynt yr holl bethau yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu dweud wrtho ar Fynydd Sinai. 33 Pan orffennodd Moses siarad � hwy, rhoddodd orchudd ar ei wyneb, 34 ond pan fyddai'n mynd o flaen yr ARGLWYDD i siarad ag ef, byddai'n tynnu'r gorchudd nes iddo ddod allan, ac wedi dod allan, byddai'n dweud wrth bobl Israel yr hyn a orchmynnwyd iddo. 35 A phan welent hwy fod croen ei wyneb yn disgleirio, byddai Moses yn rhoi'r gorchudd yn �l ar ei wyneb nes y byddai'n mynd i mewn eto i siarad � Duw.