Welsh

Exodus

35

1 Casglodd Moses ynghyd holl gynulliad pobl Israel a dweud wrthynt, "Dyma'r hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneud: 2 Chwe diwrnod y gweithiwch, ond bydd y seithfed dydd yn gysegredig, yn Saboth o orffwys i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd hwnnw. 3 Peidiwch hyd yn oed � chynnau t�n yn eich cartrefi ar y dydd Saboth." 4 Dywedodd Moses wrth holl gynulliad pobl Israel, "Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 5 Cymerwch o'r hyn sydd gennych yn offrwm i'r ARGLWYDD; y mae pob un sy'n dymuno rhoi offrwm i'r ARGLWYDD i roi aur, arian ac efydd; 6 sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr, 7 crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia, 8 olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; 9 meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg. 10 "Y mae pob crefftwr yn eich plith i ddod a gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 11 y tabernacl, ei babell a'i len, ei fachau a'i fframiau, ei farrau, ei golofnau a'i draed; 12 yr arch a'i pholion, y drugareddfa, y gorchudd; 13 y bwrdd a'i bolion a'i holl lestri, a'r bara gosod; 14 y canhwyllbren ar gyfer y goleuni, ei lestri a'i lampau, a'r olew ar gyfer y golau; 15 allor yr arogldarth a'i pholion, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd, gorchudd drws y tabernacl; 16 allor y poethoffrwm a'r rhwyll bres, ei pholion a'i holl lestri, y noe a'i throed; 17 llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed, a gorchudd drws y cyntedd; 18 hoelion y tabernacl a'r cyntedd a'u rhaffau; 19 gwisgoedd wedi eu gwn�o'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad ac i'w feibion, i wasanaethu fel offeiriaid." 20 Yna aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith oddi wrth Moses, 21 a daeth pob un yr oedd ei galon yn ei gyffroi, a'i ysbryd yn ei ennyn, ag offrwm i'r ARGLWYDD i'w ddefnyddio ym mhabell y cyfarfod ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y gwisgoedd cysegredig. 22 Felly daethant, yn wu375?r a gwragedd, a chynnig o'u gwirfodd freichledau, clustlysau, modrwyau, cadwynau a thlysau aur o bob math; yr oedd pawb yn cyflwyno aur yn offrwm i'r ARGLWYDD. 23 Yr oedd pob un a chanddo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod, yn dod � hwy. 24 Yr oedd pob un a allai gyflwyno offrwm o arian neu bres yn dod ag ef i'r ARGLWYDD; ac yr oedd pob un a chanddo goed acasia addas ar gyfer y gwaith yn dod � hwy. 25 Yr oedd pob gwraig fedrus yn nyddu �'i dwylo, ac yn dod �'i gwaith o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main. 26 Yr oedd pob gwraig a fedrai nyddu blew geifr yn gwneud hynny. 27 Daeth yr arweinwyr � meini onyx, meini i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg, 28 perlysiau ac olew ar gyfer y lamp ac ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd. 29 Pan fyddai gu373?r neu wraig trwy holl Israel yn dymuno dod ag unrhyw beth ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, byddai'n dod �'i offrwm i'r ARGLWYDD o'i wirfodd. 30 Dywedodd Moses wrth bobl Israel: "Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda, 31 ac wedi ei lenwi ag ysbryd Duw, ac � doethineb a deall, � gwybodaeth hefyd a phob rhyw ddawn, 32 er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain, a gweithio ag aur, arian a phres, 33 a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith. 34 Hefyd, ysbrydolodd yr ARGLWYDD ef ac Ahol�ab fab Achisamach o lwyth Dan i ddysgu eraill. 35 Llanwodd hwy �'r ddawn i wneud pob math o waith crefftus a chywrain a wneir gan saer neu grefftwr, neu gan un sy'n brodio sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, neu gan un sy'n gwau.