1 "Bydd Besalel, Ahol�ab, a phob un dawnus y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi iddo'r gallu a'r medr i wneud pob math o waith yng ngwasanaeth y cysegr, yn gweithio yn unol �'r cyfan y mae'r ARGLWYDD wedi ei orchymyn iddynt." 2 Galwodd Moses Besalel, Ahol�ab, a phob un dawnus yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhoi iddo'r gallu, ac a oedd yn fodlon dod i wneud y gwaith, 3 a derbyniasant gan Moses bob offrwm a roesai pobl Israel o'u gwirfodd ar gyfer y gwaith yng ngwasanaeth y cysegr. Yr oedd y bobl yn dal i ddod ag offrwm ato o'u gwirfodd bob bore; 4 a bu'n rhaid i bob un dawnus a oedd yn gwneud y gwaith yn y cysegr adael ei orchwyl, 5 a dweud wrth Moses, "Y mae'r bobl yn dod � mwy na digon ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD inni ei wneud." 6 Felly rhoddodd Moses orchymyn, a chyhoeddwyd drwy'r gwersyll nad oedd na gu373?r na gwraig i gyfrannu dim rhagor at offrwm y cysegr. Yna peidiodd y bobl � dod � rhagor, 7 oherwydd yr oedd y deunydd oedd ganddynt yn fwy na digon ar gyfer yr holl waith. 8 Yr oedd yr holl rai medrus ymhlith y gweithwyr wedi gwneud y tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu, ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwn�o'n gywrain arnynt. 9 Yr oedd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint. 10 Cydiodd Besalel bum llen wrth ei gilydd, a'r pum llen arall hefyd wrth ei gilydd. 11 Gwnaeth ddolennau glas ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall. 12 Gwnaeth hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, a'r dolennau gyferbyn �'i gilydd. 13 Gwnaeth hefyd hanner cant o fachau aur, a chydiodd y llenni wrth ei gilydd �'r bachau, er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith. 14 Gwnaeth hefyd un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl. 15 Yr oedd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint. 16 Cydiodd hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen, 17 a gwnaeth hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall. 18 Gwnaeth hanner cant o fachau pres i gydio'r babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith, 19 a gwnaeth orchudd i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, ac o grwyn morfuchod. 20 Gwnaeth hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia, 21 pob un yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led, 22 a dau denon ym mhob ffr�m i'w cysylltu �'i gilydd; gwnaeth hyn i holl fframiau'r tabernacl. 23 Dyma drefn fframiau'r tabernacl: ugain ffr�m ar yr ochr ddeheuol, 24 a deugain troed arian dan yr ugain ffr�m, dau droed i bob ffr�m ar gyfer ei dau denon. 25 Ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, gwnaeth ugain ffr�m 26 a'u deugain troed arian, dau droed dan bob ffr�m. 27 Yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwnaeth chwe ffr�m, 28 a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl, 29 wedi eu cysylltu'n ddwbl yn y pen a'r gwaelod � bach; yr oedd y ddwy ffr�m yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl. 30 Yr oedd wyth ffr�m ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffr�m. 31 Gwnaeth hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl, 32 a phump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol. 33 Gwnaeth i'r bar a oedd ar ganol y fframiau ymestyn o un pen i'r llall. 34 Goreurodd y fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt, a'u goreuro hwythau. 35 Gwnaeth orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwn�o'n gywrain arno. 36 Gwnaeth ar ei gyfer bedair colofn o goed acasia, a'u goreuro; yr oedd eu bachau o aur, a lluniodd ar eu cyfer bedwar troed arian. 37 Gwnaeth ar gyfer drws y babell len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio; 38 gwnaeth hefyd bum colofn gyda bachau. Goreurodd ben uchaf y colofnau; ac aur oedd eu cylchau, ond pres oedd eu pum troed.