Welsh

Exodus

37

1 Gwnaeth Besalel arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder. 2 Goreurodd hi ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch. 3 Lluniodd bedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall. 4 Gwnaeth bolion o goed acasia a'u goreuro, 5 a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario. 6 Gwnaeth drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led. 7 Gwnaeth hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro, 8 a gosod un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa. 9 Yr oedd dwy adain y cerwbiaid ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; yr oedd y cerwbiaid yn wynebu ei gilydd, �'u hwynebau tua'r drugareddfa. 10 Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder. 11 Goreurodd ef ag aur pur drosto, a gwnaeth ymyl aur o'i amgylch. 12 Gwnaeth ffr�m o led llaw o'i gwmpas, ac ymyl aur o amgylch y ffr�m. 13 Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl. 14 Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffr�m yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd. 15 Gwnaeth y polion oedd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro. 16 Gwnaeth lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; fe'u gwnaeth o aur pur. 17 Gwnaeth ganhwyllbren o aur pur. Yr oedd gwaelod y canhwyllbren a'i baladr o ddeunydd gyr, ac yr oedd y pedyll, y cnapiau a'r blodau yn rhan o'r cyfanwaith. 18 Yr oedd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall. 19 Ar un gainc yr oedd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyna oedd ar y chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren. 20 Ar y canhwyllbren ei hun yr oedd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt; 21 ac yr oedd un o'r cnapiau dan bob p�r o'r chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren. 22 Yr oedd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, ac yr oedd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr. 23 Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur. 24 Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur. 25 Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgw�r, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni. 26 Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch. 27 Gwnaeth hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor. 28 Gwnaeth y polion o goed acasia, a'u goreuro. 29 Gwnaeth hefyd olew cysegredig ar gyfer eneinio, ac arogldarth peraidd a phur, a chymysgodd hwy fel y gwna peraroglydd.