1 Gwnaeth allor y poethoffrwm hefyd o goed acasia; yr oedd yn sgw�r, yn bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led, a thri chufydd o uchder. 2 Gwnaeth gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rhoddodd haen o bres drosti. 3 Gwnaeth ar ei chyfer lestri, rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll t�n, pob un ohonynt o bres. 4 Gwnaeth hefyd ar gyfer yr allor rwyll o rwydwaith pres, a'i gosod dan ymyl yr allor fel ei bod yn ymestyn at hanner yr allor. 5 Gwnaeth bedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith, i gymryd y polion. 6 Gwnaeth y polion o goed acasia, a rhoi haen o bres drostynt; rhoddodd hwy drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo. 7 Fe'i gwnaeth ag astellau, yn wag oddi mewn. 8 Gwnaeth noe, a throed iddi, o ddrychau pres y gwragedd a oedd yn gwasanaethu wrth ddrws pabell y cyfarfod. 9 Yna gwnaeth y cyntedd. Ar yr ochr ddeheuol yr oedd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd; 10 yr oedd hefyd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian. 11 Yr un modd, ar yr ochr ogleddol yr oedd llenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian. 12 Ar yr ochr orllewinol yr oedd llenni hanner can cufydd o hyd, ynghyd � deg colofn a deg troed; yr oedd bachau'r colofnau a'u cylchau o arian. 13 Yr oedd yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, yn hanner can cufydd. 14 Yr oedd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, � thair colofn a thri throed, 15 a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd � thair colofn a thri throed. 16 Yr oedd yr holl lenni o amgylch y cyntedd o liain main wedi ei nyddu. 17 Yr oedd traed y colofnau o bres, ond yr oedd eu bachau a'u cylchau o arian; yr oedd pen uchaf y colofnau o arian, ac yr oedd holl golofnau'r cyntedd wedi eu cylchu ag arian. 18 Yr oedd y llen ym mhorth y cyntedd wedi ei brodio o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu; yr oedd yn ugain cufydd o hyd, a phum cufydd o led, ac yn cyfateb i lenni'r cyntedd. 19 Yr oedd y pedair colofn, a'u pedwar troed, o bres; y bachau, pen uchaf y colofnau, a'u cylchau, o arian. 20 Yr oedd holl hoelion y tabernacl a'r cyntedd oddi amgylch o bres. 21 Dyma'r holl bethau ar gyfer tabernacl y dystiolaeth a orchmynnodd Moses i'r Lefiaid eu gwneud dan gyfarwyddyd Ithamar fab Aaron yr offeiriad. 22 Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda, oedd yn gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses; gydag ef yr oedd Ahol�ab fab Achisamach, o lwyth Dan, saer a chrefftwr, ac un a allai wn�o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main. 23 {cf2 (38:22)} 24 Cyfanswm yr aur a ddefnyddiwyd yn holl waith y cysegr, sef yr aur a offrymwyd, oedd naw ar hugain o dalentau, a saith gant tri deg sicl, yn �l sicl y cysegr. 25 Cyfanswm yr arian a roddodd y rhai o'r cynulliad a gyfrifwyd oedd can talent, a mil saith gant saith deg a phum sicl, yn �l sicl y cysegr, 26 sef beca yr un gan y rhai oedd yn ugain oed neu'n hu375?n ac a rifwyd yn y cyfrifiad (hanner sicl, yn �l sicl y cysegr, yw beca). Nifer y dynion oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant pum deg. 27 o'r can talent o arian y lluniwyd y traed ar gyfer y cysegr a'r gorchudd, can troed o'r can talent, sef talent i bob troed. 28 o'r mil saith gant saith deg a phum sicl, gwnaeth fachau ar gyfer y colofnau, a goreurodd ben uchaf y colofnau a'u cylchau. 29 Cyfanswm y pres yn yr offrwm oedd saith deg o dalentau, a dwy fil pedwar can sicl; 30 o'r rhain gwnaeth draed ar gyfer drws pabell y cyfarfod, yr allor bres a'r rhwyll bres oedd ar ei chyfer, ynghyd � holl lestri'r allor, 31 y traed ar gyfer y cyntedd o amgylch, a'r porth, a holl hoelion y tabernacl a'r hoelion o amgylch y cyntedd.