Welsh

Exodus

39

1 Gwnaethant wisgoedd cywrain o sidan glas, porffor ac ysgarlad ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr; gwnaethant y gwisgoedd cysegredig i Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 2 Gwnaeth yr effod o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu. 3 Curodd yr aur yn ddolennau tenau a'u torri'n stribedi i'w plethu'n gywrain i mewn i'r sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac i'r lliain main. 4 Gwnaethant ar gyfer yr effod ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr. 5 Yr oedd y gwregys arni wedi ei wn�o'n gywrain, ac o'r un deunydd �'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu; felly'r oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 6 Cymerasant feini onyx a'u trin, a'u gosod mewn edafwaith o aur, a naddu arnynt enwau meibion Israel, fel y bydd gemydd yn naddu s�l. 7 Gosododd hwy ar ysgwyddau'r effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 8 Gwnaeth y ddwyfronneg o grefftwaith cywrain; fe'i gwnaeth, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu. 9 Yr oedd yn sgw�r ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led. 10 Gosodasant ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl; 11 yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt; 12 yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst; 13 yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; yr oeddent i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur. 14 Yr oedd deuddeg maen wedi eu henwi ar �l meibion Israel; yr oedd pob un fel s�l ag enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno. 15 Gwnaethant ar gyfer y ddwyfronneg gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd, 16 a hefyd ddau edafwaith aur, a dau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg. 17 Rhoddwyd y ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg, 18 a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen. 19 Yna gwnaethant ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod. 20 Gwnaethant hefyd ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod, ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys. 21 Rhwymasant fachau'r ddwyfronneg wrth fachau'r effod � llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 22 Gwnaeth fantell yr effod i gyd yn frodwaith o sidan glas, 23 a thwll yn ei chanol, gyda gwn�ad o'i amgylch, fel a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo. 24 Gwnaethant o amgylch godre'r fantell bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain wedi ei nyddu. 25 Gwnaethant hefyd glychau o aur pur, 26 a'u gosod rhwng y pomgranadau o amgylch godre'r fantell ar gyfer y gwasanaeth; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 27 Gwnaethant siacedau wedi eu gwau o liain main ar gyfer Aaron a'i feibion; 28 gwnaethant hefyd benwisg a chapiau, llodrau 29 a gwregys, y cwbl o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad wedi ei frodio; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 30 Gwnaethant bl�t y goron gysegredig o aur pur, ac argraffu arno, fel ar s�l, "Sanctaidd i'r ARGLWYDD"; 31 a chlymwyd ef ar flaen y benwisg � llinyn glas; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 32 Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; ac yr oedd pobl Israel wedi gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 33 Daethant �'r tabernacl at Moses, sef y babell a'i holl lestri, y bachau, y fframiau, y barrau, y colofnau, y traed; 34 y to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod, a'r gorchudd; 35 arch y dystiolaeth a'i pholion a'r drugareddfa; 36 y bwrdd a'i holl lestri, a'r bara gosod; 37 y canhwyllbren o aur pur, ei lampau wedi eu goleuo, ynghyd �'u holl lestri, a'r olew ar gyfer y golau; 38 yr allor aur, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; gorchudd drws y tabernacl; 39 yr allor bres, a'r rhwyll bres ar ei chyfer, a'i pholion a'i holl lestri; y noe a'i throed; 40 llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed; gorchudd porth y cyntedd, ei raffau a'i hoelion, a'r holl lestri ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; 41 y gwisgoedd wedi eu gwn�o'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig Aaron a'i feibion, iddynt wasanaethu fel offeiriaid. 42 Yr oedd pobl Israel wedi gwneud yr holl waith yn union fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses. 43 Gwelodd Moses eu bod wedi gwneud yr holl waith fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, a bendithiodd Moses hwy.