1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2 "Yr wyt i godi'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf. 3 Gosod arch y dystiolaeth ynddo, a'i gorchuddio � llen. 4 Cymer y bwrdd i mewn, a'i osod yn drefnus, a chymer y canhwyllbren, a goleua ei lampau. 5 Rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y dystiolaeth, a gosod y llen ar ddrws y tabernacl. 6 Rho allor y poethoffrwm o flaen drws y tabernacl, pabell y cyfarfod, 7 a gosod y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi du373?r ynddi. 8 Gosod y cyntedd o'i amgylch, a llen ar gyfer porth y cyntedd. 9 Yna cymer olew'r ennaint, ac eneinio'r tabernacl a'r cyfan sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl ddodrefn; a bydd yn gysegredig. 10 Eneinia hefyd allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a chysegra'r allor; a bydd yr allor yn gysegredig iawn. 11 Yna eneinia'r noe a'i throed, a chysegra hi. 12 Tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi � du373?r, 13 a gwisg Aaron �'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad. 14 Tyrd �'i feibion hefyd, a'u gwisgo �'r siacedau; 15 eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau." 16 Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; 17 ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl. 18 Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau. 19 Lledodd y babell dros y tabernacl, a gosod to'r babell drosto, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 20 Cymerodd y dystiolaeth a'i rhoi yn yr arch; cysylltodd y polion wrth yr arch, a rhoi'r drugareddfa arni. 21 Yna daeth �'r arch i mewn i'r tabernacl, a gosod y gorchudd yn ei le dros arch y dystiolaeth, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 22 Rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod, ar ochr ogleddol y tabernacl, y tu allan i'r gorchudd, 23 a threfnodd y bara arno gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 24 Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod, gyferbyn �'r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl, 25 a goleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 26 Rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y gorchudd, 27 ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 28 Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl, 29 a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo. 30 Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddu373?r, 31 er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed. 32 Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nes�u at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 33 Cododd gyntedd o amgylch y tabernacl a'r allor, a rhoddodd y gorchudd dros borth y cyntedd. Felly y gorffennodd Moses y gwaith. 34 Yna gorchuddiodd cwmwl babell y cyfarfod, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl. 35 Ni allai Moses fynd i mewn i babell y cyfarfod am fod y cwmwl yn ei gorchuddio, ac am fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl. 36 Pan godai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, fe gychwynnai pobl Israel ar eu taith; 37 ond os na chodai'r cwmwl ni chychwynnent. 38 Ar hyd y daith yr oedd holl du375? Israel yn gallu gweld cwmwl yr ARGLWYDD uwchben y tabernacl yn ystod y dydd, a th�n uwch ei ben yn ystod y nos.