1 Galwodd yr ARGLWYDD ar Moses a llefaru wrtho o babell y cyfarfod a dweud: 2 "Llefara wrth bobl Israel a dywed wrthynt, 'Pan fydd unrhyw un ohonoch yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD, dewch ag anifail o'r gyr neu o'r praidd yn offrwm. 3 "'Os poethoffrwm o'r gyr fydd ei rodd, dylai ddod � gwryw di-nam; deued ag ef at ddrws pabell y cyfarfod, iddo fod yn dderbyniol gan yr ARGLWYDD. 4 Rhodded ei law ar ben y poethoffrwm, a bydd yn dderbyniol ganddo i wneud iawn drosto. 5 Y mae i ladd y bustach ifanc o flaen yr ARGLWYDD, ac yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn dod �'r gwaed ac yn ei luchio ar bob ochr i'r allor sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 6 Y mae i flingo'r poethoffrwm a'i dorri'n ddarnau. 7 Bydd meibion Aaron yr offeiriad yn gosod t�n ar yr allor ac yn trefnu'r coed ar y t�n. 8 Yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn trefnu'r darnau, yn cynnwys y pen a'r braster, ar y coed sy'n llosgi ar yr allor. 9 Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau � du373?r, a bydd yr offeiriad yn llosgi'r cyfan ohono ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD. 10 "'Os poethoffrwm o'r praidd fydd ei rodd, boed o'r defaid neu o'r geifr, dylai ddod � gwryw di-nam. 11 Y mae i'w ladd ar ochr y gogledd i'r allor o flaen yr ARGLWYDD, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor. 12 Y mae i'w dorri'n ddarnau, yn cynnwys y pen a'r braster, a bydd yr offeiriad yn eu trefnu ar y coed sy'n llosgi ar yr allor. 13 Y mae i olchi'r ymysgaroedd a'r coesau � du373?r, a bydd yr offeiriad yn dod �'r cyfan ac yn ei losgi ar yr allor yn boethoffrwm, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD. 14 "'Os poethoffrwm o adar fydd ei rodd i'r ARGLWYDD, dylai ddod � thurtur neu gyw colomen. 15 Y mae'r offeiriad i ddod ag ef at yr allor a thorri ei ben, a'i losgi ar yr allor; bydd yn gwasgu allan ei waed ar ochr yr allor, 16 yn tynnu ei grombil a'i blu, ac yn eu lluchio yn ymyl yr allor i'r dwyrain, lle mae'r lludw; 17 bydd yn ei agor allan gerfydd ei adenydd, ond heb ei ddarnio; yna bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar y coed sy'n llosgi, yn boethoffrwm, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.