Welsh

Genesis

11

1 Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd. 2 Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno. 3 A dywedasant wrth ei gilydd, "Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed." Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch. 4 Yna dywedasant, "Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thu373?r a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear." 5 Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tu373?r yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu, 6 a dywedodd, "Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud. 7 Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad." 8 Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas. 9 Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear. 10 Dyma genedlaethau Sem. Bu Sem fyw am gan mlynedd cyn geni iddo Arffaxad ddwy flynedd wedi'r dilyw. 11 Wedi geni Arffaxad, bu Sem fyw am bum can mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill. 12 Bu Arffaxad fyw am dri deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Sela. 13 Wedi geni Sela, bu Arffaxad fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill. 14 Bu Sela fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Heber. 15 Wedi geni Heber, bu Sela fyw am bedwar cant a thair o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill. 16 Bu Heber fyw am dri deg a phedair o flynyddoedd cyn geni iddo Peleg. 17 Wedi geni Peleg, bu Heber fyw am bedwar cant tri deg o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill. 18 Bu Peleg fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Reu. 19 Wedi geni Reu, bu Peleg fyw am ddau gant a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill. 20 Bu Reu fyw am dri deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Serug. 21 Wedi geni Serug, bu Reu fyw am ddau gant a saith o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill. 22 Bu Serug fyw am dri deg o flynyddoedd cyn geni iddo Nachor. 23 Wedi geni Nachor, bu Serug fyw am ddau gan mlynedd, a chafodd feibion a merched eraill. 24 Bu Nachor fyw am ddau ddeg a naw o flynyddoedd cyn geni iddo Tera. 25 Wedi geni Tera, bu Nachor fyw am gant un deg a naw o flynyddoedd, a chafodd feibion a merched eraill. 26 Bu Tera fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Abram, Nachor a Haran. 27 Dyma genedlaethau Tera. Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran; a Haran oedd tad Lot. 28 Bu Haran farw cyn ei dad Tera yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid. 29 Yna cymerodd Abram a Nachor wragedd iddynt eu hunain; enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca. 30 Yr oedd Sarai yn ddi-blant, heb eni plentyn. 31 Cymerodd Tera ei fab Abram, a'i u373?yr Lot fab Haran, a Sarai ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig ei fab Abram; ac aethant allan gyda'i gilydd o Ur y Caldeaid i fynd i wlad Canaan, a daethant i Haran a thrigo yno. 32 Dau gant a phump o flynyddoedd oedd oes Tera; a bu farw Tera yn Haran.