Welsh

Genesis

10

1 Dyma genedlaethau meibion Noa, sef Sem, Cham a Jaffeth. Ganwyd iddynt feibion wedi'r dilyw. 2 Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras. 3 Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, a Togarma. 4 Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim; 5 o'r rhain yr ymrannodd pobl yr ynysoedd. Dyna feibion Jaffeth yn eu gwledydd, pob un yn �l ei iaith a'i lwyth, ac yn eu cenhedloedd. 6 Meibion Cham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan. 7 Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan. 8 Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear. 9 Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, "Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD." 10 Dechreuodd ei frenhiniaeth gyda Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Sinar. 11 Aeth allan o'r wlad honno i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-ir, Cala, 12 a Resen, dinas fawr rhwng Ninefe a Cala. 13 Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, 14 Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt. 15 Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth; 16 hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid, 17 Hefiaid, Arciaid, Siniaid, 18 Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid, 19 ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa. 20 Dyna feibion Cham, yn �l eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd �'u gwledydd a'u cenhedloedd. 21 I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant. 22 Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram. 23 Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas. 24 Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber. 25 I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd. 26 Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera, 27 Hadoram, Usal, Dicla, 28 Obal, Abimael, Seba, 29 Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan. 30 Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain. 31 Dyna feibion Sem, yn �l eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd �'u gwledydd a'u cenhedloedd. 32 Dyma lwythau meibion Noa, yn �l eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw.