Welsh

Genesis

9

1 Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, "Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear. 2 Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y m�r; gosodwyd hwy dan eich awdurdod. 3 Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth. 4 Ond peidiwch � bwyta cig �'i einioes, sef ei waed, ynddo. 5 Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall. 6 A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau; oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun. 7 Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch, epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi." 8 Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud, 9 "Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod � chwi ac �'ch had ar eich �l, 10 ac � phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch. 11 Sefydlaf fy nghyfamod � chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear." 12 A dywedodd Duw, "Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud � chwi ac � phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif: 13 gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear. 14 Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl, 15 a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd. 16 Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear." 17 Dywedodd Duw wrth Noa, "Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear." 18 Sem, Cham a Jaffeth oedd meibion Noa a ddaeth allan o'r arch. Cham oedd tad Canaan. 19 Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear. 20 Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan, 21 ac yna yfodd o'r gwin nes meddwi, a gorwedd yn noeth yn ei babell. 22 Gwelodd Cham, tad Canaan, ei dad yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd y tu allan; 23 ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad. 24 Pan ddeffr�dd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo, 25 dywedodd, "Melltigedig fyddo Canaan; gwas i weision ei frodyr fydd." 26 Dywedodd hefyd, "Bendigedig gan yr ARGLWYDD fy Nuw fyddo Sem; bydded Canaan yn was iddo. 27 Helaethed Duw Jaffeth, iddo breswylio ym mhebyll Sem; bydded Canaan yn was iddo." 28 Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd. 29 Felly yr oedd oes gyfan Noa yn naw cant a hanner o flynyddoedd; yna bu farw.