Welsh

Genesis

20

1 Ymdeithiodd Abraham oddi yno i ardal y Negef, a byw rhwng Cades a Sur. Arhosodd dros dro yn Gerar, 2 ac yno dywedodd Abraham am ei wraig Sara, "Fy chwaer yw hi"; ac anfonodd Abimelech brenin Gerar am Sara, a'i chymryd. 3 Ond daeth Duw at Abimelech mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, "Fe fyddi farw o achos y wraig a gymeraist, oherwydd gwraig briod yw hi." 4 Ond nid oedd Abimelech wedi nes�u ati; a dywedodd, "ARGLWYDD, a leddi di bobl ddiniwed? 5 Oni ddywedodd ef wrthyf, 'Fy chwaer yw hi', a hithau, 'Fy mrawd yw ef'? Gwneuthum hyn � chydwybod dawel a dwylo gl�n." 6 Yna dywedodd Duw wrtho yn y freuddwyd, "Mi wn iti wneud hyn � chydwybod dawel; cedwais innau di rhag pechu yn f'erbyn, a dyna pam na adewais iti ei chyffwrdd. 7 Yn awr, rho'r wraig yn �l i'w gu373?r, oherwydd proffwyd yw ac fe wedd�a trosot, fel y byddi fyw. Ond os na roi hi'n �l, deall di y byddi'n siu373?r o farw, ti a'th dylwyth." 8 Cododd Abimelech yn fore, a galw ei holl weision a dweud wrthynt am yr holl bethau hyn; a chafodd y dynion fraw mawr. 9 Yna galwodd Abimelech am Abraham a dweud wrtho, "Beth a wnaethost i ni? Sut yr wyf fi wedi pechu yn dy erbyn, i beri iti ddwyn pechod mawr arnaf fi a'm teyrnas? Yr wyt wedi gwneud pethau i mi na ddylid eu gwneud." 10 Dywedodd Abimelech ymhellach wrth Abraham, "Beth oedd yn dy feddwl wrth wneud y peth hwn?" 11 Atebodd Abraham, "Mi feddyliais nad oedd neb yn ofni Duw yn y lle hwn, ac y byddent yn fy lladd o achos fy ngwraig. 12 Ac yn wir, fy chwaer yw hi, merch fy nhad, ond nid merch fy mam; a daeth yn wraig i mi. 13 A phan barodd Duw imi adael tu375? fy nhad, dywedais wrthi, 'Mynnaf y gymwynas hon gennyt: i ble bynnag yr awn, dywed amdanaf, "Fy mrawd yw ef".'" 14 Yna cymerodd Abimelech ddefaid, ychen, gweision a morynion, a'u rhoi i Abraham, a rhoes ei wraig Sara yn �l iddo. 15 A dywedodd Abimelech, "Dyma fy ngwlad o'th flaen; cei fyw lle bynnag y dymuni." 16 A dywedodd wrth Sara, "Dyma fi wedi rhoi i'th frawd fil o ddarnau arian; bydd hyn yn dy glirio ac yn dy gyfiawnhau'n llwyr yng ngu373?ydd pawb sydd gyda thi." 17 Yna gwedd�odd Abraham ar Dduw, ac iachaodd Duw Abimelech a'i wraig a'i forynion; a chawsant blant. 18 Oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi llwyr atal bob planta yn nheulu Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.