Welsh

Genesis

21

1 Ymwelodd yr ARGLWYDD � Sara yn �l ei air, a gwnaeth iddi fel yr addawodd. 2 Beichiogodd Sara a geni mab i Abraham yn ei henaint, ar yr union adeg a ddywedodd Duw wrtho. 3 Rhoes Abraham i'r mab a anwyd iddo o Sara yr enw Isaac; 4 ac enwaedodd Abraham ei fab Isaac yn wyth diwrnod oed, fel yr oedd Duw wedi gorchymyn iddo. 5 Yr oedd Abraham yn gant oed pan anwyd iddo ei fab Isaac. 6 A dywedodd Sara, "Parodd Duw imi chwerthin; fe fydd pawb a glyw am hyn yn chwerthin gyda mi." 7 Dywedodd hefyd, "Pwy fuasai wedi dweud wrth Abraham y rhoddai Sara sugn i blant? Eto mi enais fab iddo yn ei henaint." 8 Tyfodd y bachgen, a diddyfnwyd ef; ac ar ddiwrnod diddyfnu Isaac, gwnaeth Abraham wledd fawr. 9 Ond gwelodd Sara y mab a ddygodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn chwarae gyda'i mab Isaac. 10 A dywedodd wrth Abraham, "Gyrr allan y gaethferch hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethferch hon gydetifeddu �'m mab i, Isaac." 11 Yr oedd hyn yn atgas iawn gan Abraham o achos ei fab; 12 ond dywedodd Duw wrth Abraham, "Paid � phoeni am y llanc a'th gaethferch; gwna bopeth a ddywed Sara wrthyt, oherwydd trwy Isaac y cedwir dy linach. 13 Gwnaf fab y gaethferch hefyd yn genedl, am ei fod yn blentyn i ti." 14 Yna cododd Abraham yn fore, a chymerodd fara a chostrel o ddu373?r a'u rhoi i Hagar, a'u gosod hwy a'r bachgen ar ei hysgwydd, a'i hanfon ymaith. Aeth hithau i grwydro yn niffeithwch Beerseba. 15 Pan oedd y du373?r yn y gostrel wedi darfod, gosododd y bachgen i lawr dan un o'r llwyni, 16 ac aeth i eistedd bellter ergyd bwa oddi wrtho, gan ddweud, "Ni allaf edrych ar y bachgen yn marw." Fel yr oedd yn eistedd bellter oddi wrtho, cododd y bachgen ei lais ac wylo. 17 Clywodd Duw lais y plentyn, a galwodd angel Duw o'r nef ar Hagar a dweud wrthi, "Beth sy'n dy boeni, Hagar? Paid ag ofni, oherwydd y mae Duw wedi clywed llais y plentyn o'r lle y mae. 18 Cod, cymer y plentyn a gafael amdano, oherwydd gwnaf ef yn genedl fawr." 19 Yna agorodd Duw ei llygaid, a gwelodd bydew du373?r; aeth hithau i lenwi'r gostrel � du373?r a rhoi diod i'r plentyn. 20 Bu Duw gyda'r plentyn, a thyfodd; bu'n byw yn y diffeithwch, a daeth yn saethwr bwa. 21 Yr oedd yn byw yn niffeithwch Paran, a chymerodd ei fam wraig iddo o wlad yr Aifft. 22 Yr amser hwnnw, dywedodd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin wrth Abraham, "Y mae Duw gyda thi ym mhopeth yr wyt yn ei wneud; 23 yn awr, dos ar dy lw yn enw Duw i mi yma, na fyddi'n anffyddlon i mi, nac i'm plant, nac i'm hwyrion; ond fel yr wyf fi wedi bod yn deyrngar i ti, bydd dithau i minnau ac i'r wlad yr wyt wedi ymdeithio ynddi." 24 A dywedodd Abraham, "Mi af ar fy llw." 25 Pan geryddodd Abraham Abimelech am y pydew du373?r yr oedd gweision Abimelech wedi ei gymryd trwy drais, 26 dywedodd Abimelech, "Ni wn i ddim pwy a wnaeth hyn; ni ddywedaist wrthyf, ac ni chlywais i s�n am y peth cyn heddiw." 27 Yna cymerodd Abraham ddefaid ac ychen, a'u rhoi i Abimelech, a gwnaethant ill dau gyfamod. 28 Gosododd Abraham o'r neilltu saith hesbin o'r praidd. 29 A gofynnodd Abimelech i Abraham, "Beth yw'r saith hesbin hyn yr wyt wedi eu gosod o'r neilltu?" 30 Dywedodd yntau, "Wrth gymryd y saith hesbin gennyf, byddi'n cydnabod mai myfi a gloddiodd y pydew hwn." 31 Am hynny galwyd y lle hwnnw Beerseba, oherwydd yno yr aeth y ddau ar eu llw. 32 Wedi iddynt wneud cyfamod yn Beerseba, cododd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin, a dychwelyd i wlad y Philistiaid. 33 Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beerseba, a galwodd yno ar enw'r ARGLWYDD, y Duw tragwyddol. 34 A bu Abraham yn aros am amser hir yng ngwlad y Philistiaid.