Welsh

Genesis

37

1 Preswyliodd Jacob yng ngwlad Canaan, y wlad yr ymdeithiodd ei dad ynddi. 2 Dyma hanes tylwyth Jacob. Yr oedd Joseff yn ddwy ar bymtheg oed, ac yn bugeilio'r praidd gyda'i frodyr, gan helpu meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad; a chariodd Joseff straeon drwg amdanynt i'w tad. 3 Yr oedd Israel yn caru Joseff yn fwy na'i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo. 4 Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na'r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho. 5 Cafodd Joseff freuddwyd, a phan ddywedodd wrth ei frodyr amdani, aethant i'w gas�u yn fwy fyth. 6 Dywedodd wrthynt, "Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais: 7 yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i." 8 Yna gofynnodd ei frodyr iddo, "Ai ti sydd i deyrnasu arnom? A fyddi di'n arglwydd arnom ni?" Ac aethant i'w gas�u ef yn fwy eto o achos ei freuddwydion a'i eiriau. 9 Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, "Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi." 10 Wedi iddo ei hadrodd wrth ei dad a'i frodyr, ceryddodd ei dad ef, a dweud, "Beth yw'r freuddwyd hon a gefaist? A ddown ni, myfi a'th fam a'th frodyr, i ymgrymu i'r llawr i ti?" 11 A chenfigennodd ei frodyr wrtho, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof. 12 Yr oedd ei frodyr wedi mynd i fugeilio praidd eu tad ger Sichem. 13 A dywedodd Israel wrth Joseff, "Onid yw dy frodyr yn bugeilio ger Sichem? Tyrd, fe'th anfonaf di atynt." Atebodd yntau, "o'r gorau." 14 Yna dywedodd wrtho, "Dos i weld sut y mae dy frodyr a'r praidd, a thyrd � gair yn �l i mi." Felly anfonodd ef o ddyffryn Hebron, ac aeth tua Sichem. 15 Cyfarfu gu373?r ag ef pan oedd yn crwydro yn y fro, a gofyn iddo, "Beth wyt ti'n ei geisio?" 16 Atebodd yntau, "Rwy'n ceisio fy mrodyr; dywed wrthyf ble maent yn bugeilio." 17 A dywedodd y gu373?r, "Y maent wedi mynd oddi yma, oherwydd clywais hwy'n dweud, 'Awn i Dothan.'" Felly aeth Joseff ar �l ei frodyr, a chafodd hyd iddynt yn Dothan. 18 Gwelsant ef o bell, a chyn iddo gyrraedd atynt gwnaethant gynllwyn i'w ladd, 19 a dweud wrth ei gilydd, "Dacw'r breuddwydiwr hwnnw'n dod. 20 Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion." 21 Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, "Peidiwn �'i ladd." 22 Dywedodd Reuben wrthynt, "Peidiwch � thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch � gwneud niwed iddo." Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn �l at ei dad. 23 A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo, 24 a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddu373?r ynddo. 25 Tra oeddent yn eistedd i fwyta, codasant eu golwg a gweld cwmni o Ismaeliaid yn dod ar eu taith o Gilead, a'u camelod yn dwyn glud p�r, balm a myrr, i'w cludo i lawr i'r Aifft. 26 A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, "Faint gwell fyddwn o ladd ein brawd a chelu ei waed? 27 Dewch, gadewch inni ei werthu i'r Ismaeliaid; peidiwn � gwneud niwed iddo, oherwydd ein brawd ni a'n cnawd ydyw." Cytunodd ei frodyr. 28 Yna, pan ddaeth marchnatwyr o Midian heibio, codasant Joseff o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am ugain sicl o arian. Aethant hwythau � Joseff i'r Aifft. 29 Pan aeth Reuben yn �l at y pydew a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad 30 a mynd at ei frodyr a dweud, "Nid yw'r bachgen yno; a minnau, i ble'r af?" 31 Cymerasant wisg Joseff, a lladd gafr, a throchi'r wisg yn y gwaed. 32 Yna aethant �'r wisg laes yn �l at eu tad, a dweud, "Daethom o hyd i hon; edrych di ai gwisg dy fab ydyw." 33 Fe'i hadnabu a dywedodd, "Gwisg fy mab yw hi; anifail gwyllt sydd wedi ei ddifa. Yn wir, y mae Joseff wedi ei larpio." 34 Yna rhwygodd Jacob ei ddillad a gwisgo sachliain am ei lwynau, a galarodd am ei fab am amser hir. 35 A daeth pob un o'i feibion a'i ferched i'w gysuro, ond gwrthododd dderbyn cysur, a dywedodd, "Mewn galar yr af finnau i lawr i'r bedd at fy mab." Ac wylodd ei dad amdano. 36 Gwerthodd y Midianiaid ef yn yr Aifft i Potiffar, swyddog Pharo, pennaeth y gwarchodwyr.