Welsh

Genesis

38

1 Yr adeg honno gadawodd Jwda ei frodyr a throi at u373?r o Adulam o'r enw Hira. 2 Ac yno gwelodd Jwda ferch rhyw Ganaanead o'r enw Sua, a chymerodd hi'n wraig iddo a chafodd gyfathrach � hi; 3 beichiogodd hithau ac esgor ar fab, ac enwodd yntau ef yn Er. 4 Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, ac enwodd ef Onan. 5 Esgorodd eto ar fab, ac enwodd ef Sela; yn Chesib yr oedd pan esgorodd arno. 6 Cymerodd Jwda wraig o'r enw Tamar i Er ei fab hynaf. 7 Ond dyn drygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd Er, mab hynaf Jwda; a pharodd yr ARGLWYDD iddo farw. 8 Yna dywedodd Jwda wrth Onan, "Dos at wraig dy frawd, ac fel brawd ei gu373?r cod deulu i'th frawd." 9 Ond gwyddai Onan nad ei eiddo ef fyddai'r teulu; ac felly, pan �i at wraig ei frawd, collai ei had ar lawr, rhag rhoi plant i'w frawd. 10 Yr oedd yr hyn a wnaeth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a pharodd iddo yntau farw. 11 Yna dywedodd Jwda wrth ei ferch-yng-nghyfraith Tamar, "Aros yn weddw yn nhu375? dy dad nes i'm mab Sela dyfu"; oherwydd yr oedd arno ofn iddo yntau hefyd farw fel ei frodyr. Felly aeth Tamar i fyw yn nhu375? ei thad. 12 Ymhen amser, bu farw gwraig Jwda, merch Sua; ac wedi ei dymor galar aeth Jwda a'i gyfaill Hira yr Adulamiad i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid. 13 Pan fynegwyd i Tamar fod ei thad-yng-nghyfraith wedi mynd i Timnath i gneifio, 14 tynnodd wisg ei gweddwdod oddi amdani, a gwisgo gorchudd a'i lapio amdani. Yna aeth i eistedd wrth borth Enaim ar y ffordd i Timnath; oherwydd yr oedd yn gweld bod Sela wedi dod i oed ac nad oedd hi wedi ei rhoi'n wraig iddo. 15 Gwelodd Jwda hi a thybiodd mai putain ydoedd, gan ei bod wedi cuddio'i hwyneb. 16 Trodd ati ar y ffordd a dweud, "Tyrd, gad i mi gael cyfathrach � thi." Ond ni wyddai mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi. Atebodd hithau, "Beth a roi di imi, os cei gyfathrach � mi?" 17 Dywedodd, "Anfonaf i ti fyn gafr o'r praidd." Atebodd hithau, "A roi di wystl imi nes iti ei anfon?" 18 Gofynnodd yntau, "Beth a rof iti'n wystl?" Atebodd hithau, "Dy s�l a'r llinyn, a'th ffon sydd yn dy law." Wedi iddo eu rhoi iddi, cafodd gyfathrach � hi, a beichiogodd hithau. 19 Yna, wedi iddi godi a mynd ymaith, tynnodd ei gorchudd a rhoi amdani wisg ei gweddwdod. 20 Anfonodd Jwda y myn gafr yng ngofal ei gyfaill yr Adulamiad, er mwyn cael y gwystl yn �l gan y wraig, ond ni allai ddod o hyd iddi. 21 Holodd ddynion y lle a dweud, "Ble mae'r butain y cysegr oedd ar y ffordd yn Enaim?" Ac atebasant, "Nid oes putain y cysegr yma." 22 Felly dychwelodd at Jwda a dweud, "Ni chefais hyd iddi; a dywedodd dynion y lle nad oedd putain y cysegr yno." 23 Yna dywedodd Jwda, "Bydded iddi eu cadw, neu byddwn yn destun cywilydd; anfonais i y myn hwn, ond methaist gael hyd iddi." 24 Ymhen tri mis dywedwyd wrth Jwda, "Bu Tamar dy ferch-yng-nghyfraith yn puteinio, ac y mae wedi beichiogi hefyd mewn godineb." Dywedodd Jwda, "Dewch � hi allan, a llosger hi." 25 A phan ddaethant � hi allan, anfonodd at ei thad-yng-nghyfraith i ddweud, "Yr wyf yn feichiog o'r gu373?r biau'r rhain." A dywedodd hefyd, "Edrych, yn awr, eiddo pwy yw'r rhain, y s�l a'r llinyn a'r ffon." 26 Adnabu Jwda hwy a dywedodd, "Y mae hi'n fwy cyfiawn na mi, oherwydd na rois hi i'm mab Sela." Ni orweddodd gyda hi ar �l hynny. 27 Pan ddaeth yr amser iddi esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth, 28 ac wrth iddi esgor rhoes un ei law allan; a chymerodd y fydwraig edau goch a'i rhwymo am ei law, a dweud, "Hwn a ddaeth allan yn gyntaf." 29 Ond tynnodd ei law yn �l, a daeth ei frawd allan; a dywedodd hi, "Dyma doriad yr wyt wedi ei wneud i ti dy hun!" Ac enwyd ef Peres. 30 Daeth ei frawd allan wedyn �'r edau goch am ei law, ac enwyd ef Sera.